Roedd yr Hyniaid (Lladin: Hunni) yn nifer o bobloedd nomadig, o ganolbarth Asia yn wreiddiol, efallai o'r ardal sy'n awr yn wlad Mongolia. Yn 139 OC, cyfeiriodd Ptolemi at y Khuni oedd yn byw ar lannau Afon Dnieper. Mae'r hanesydd Armenaidd Moses o Khorene, yn y 5g, yn cyfeirio at yr Hunni yn byw yn agos at y Sarmatiaid ac yn dweud iddynt gipio dinas Balkh yng nghanolbarth Asia rhwng 194 a 214.

Hyniaid
Enghraifft o'r canlynolllwyth, grŵp diflanedig o bobl Edit this on Wikidata
Daeth i ben469 Edit this on Wikidata
MamiaithHunnic edit this on wikidata
CrefyddTengrism edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Roedd Ymerodraeth yr Hyniaid yn ymestyn o ganolbarth Asia hyd yr Almaen.

Ymsefydlodd yr Hyniaid yn y gorllewin yn nhalaith Rufeinig Pannonia trwy gytundeb yn 361, ac yn 372 gorchfygasant yr Alaniaid dan eu brenin Balimir. Rhwng tua 400 a 410, ymfudodd llawer o'r Hyniaid tua'r gorllewin. Dan eu brenin enwocaf, Attila, enillasant ymerodraeth fawr. Roedd byddinoedd Attila yn cynnwys cryn nifer o bobloaeth gwahanol, nid Hyniaid yn unig. Roedd yr Hyniaid eu hunain yn enwog yn enwog am eu gallu fel marchogion, ac roedd eu bwa yn fwy effeithiol na'r eiddo eu gwrthwynebwyr.

Yn dilyn marwolaeth Attila, gorchfygwyd ei feibion gan Ardaric ger Afon Nedao yn 454, a daeth Ymerodraeth yr Hyniaid i ben.