Mae'r hypothalamws yn cysylltu'r system nerfol â'r system endocrin drwy'r chwarren bitwidol. Daw'r gair (fel llawer iawn o eiriau meddygol eraill) o'r Groeg: ὑποθαλαμος sef 'o dan y thalamws', ac yn wir, yno y mae wedi ei leoli: o dan y thalamws ac uwch ben coesyn yr ymennydd. Enw'r ardal hon o'r ymennydd ydy'r 'dienceffalon'. Fe'i ceir ym mhob mamal; mewn bodau dynol mae oddeutu maint cneuen almwnd.

Lleolir yr hypothalmws yn y rhan o'r ymennydd a elwir yn dienceffalon.
Prif chwarrennau'r endocrin: (Gwryw ar y chwith, benyw ar y dde)
1 Corffyn pineol 2 Chwarren bitwidol 3 Y chwarren theiroid 4 Hypothalmws 5 Chwarren adrenal 6 Pancreas 7 Ofari 8 Y ceilliau

Gwaith yr hypothalamws ydy rheoli rhai prosesau metabolig a rhai o weithgareddau'r system nerfol. Mae'n creu 'neurophormones' sydd yn eu tro'n ysgogi (neu'n atal) secretu hormonau pitwidol. Mae ganddo waith hynod bwysig: rheoli tymheredd y corff, awch bwyd, gwylltineb a rhythm 24 awr y corff.