Hywel ab Owain Gwynedd

milwr a bardd

Tywysog a bardd Cymreig oedd Hywel ab Owain Gwynedd (bu farw 1170).[1] Roedd yn fab gordderch i Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd, a Gwyddeles o'r enw Pyfog, ac fe gyfeirir ato weithiau fel Hywel ap Gwyddeles. Roedd Gwerful Goch yn nith iddo trwy ei frawd Cynan.

Hywel ab Owain Gwynedd
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw1170 Edit this on Wikidata
Pentraeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadOwain Gwynedd Edit this on Wikidata
MamFfynnod Wyddeles Edit this on Wikidata
PlantCadwallon ap Hywel ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
Cofeb i Hywel ab Owain Gwynedd ar Draeth Coch, Ynys Môn, ger safle dybiedig Brwydr Pentraeth.

Bywgraffiad golygu

Yn 1143 roedd gan Cadwaladr, brawd Owain Gwynedd, ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ymateb Owain oedd gyrru Hywel i gymeryd ei diroedd yng ngogledd Ceredigion oddi ar ei ewythr. Gwnaeth Hywel hynny, gan oresgyn a llosgi castell Aberystwyth. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o Feirionnydd gan Hywel a'i frawd Cynan, gan oresgyn a llosgi ei gastell yng Nghynfael.[2]

Yn 1159 ymgynghreiriodd Hywel â rhai o arglwyddi Normanaidd y de yn erbyn yr Arglwydd Rhys.[2]

Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd Hywel i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan lu Dafydd a Rhodri mewn brwydr ger Pentraeth ym Môn.[2]

Cerddi golygu

Roedd Hywel yn fardd galluog, ac mae wyth o'i gerddi wedi eu cadw. Fe'i cofir yn bennaf fel bardd serch a natur. Yn wahanol i eraill o Feirdd y Tywysogion nid oedd yn fardd llys ac felly roedd yn mwynhau'r rhyddid i ganu ar bynciau amrywiol mewn cywair mwy personol.[1]

Yr enwocaf o'i gerddi, mae'n debyg, yw 'Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd' lle mae'n canu clodydd Gwynedd, ei brydferthwch naturiol a phrydferthwch ei wragedd. Canodd yn ogystal bump cerdd serch i ferched anhysbys; cerddi sydd yn rhagflaenu'r canu serch telynegol a welir yng ngwaith y cywyddwyr, fel Dafydd ap Gwilym, yn y 14g. Mae'n bosibl fod barddoniaeth Ffrangeg y cyfnod, yn arbennig gwaith y Trwbadwriaid, wedi dylanwadu ar Hywel. Mae ganddo hefyd ddwy gerdd arwrol sy'n dathlu buddugoliaethau Gwynedd yn erbyn lluoedd brenin Lloegr (Harri II efallai).[1]

Llyfryddiaeth golygu

 
Hywel Ab Owain Gwynedd - Bardd-Dywysog gan Nerys Ann Jones

Cefndir hanesyddol golygu

  • R.R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991)

Gwaith barddonol golygu

  • Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o destunau barddonol Hywel, yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  2. 2.0 2.1 2.2 R.R. Davies, The Age of Conquest[:] Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991).



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch