Iâl (bwystfil chwedlonol)

Bwystfil chwedlonol yw iâl (Lladin: eale) sy'n ymddangos ym mytholeg Ewropeaidd a herodraeth. Mae'n cael ei disgrifio gan Plinius yr Hynaf yn ei Naturalis Historia (VIII: 21). Mae Plinius yn ysgrifennu bod yr iâl cymaint ag afonfarch, gyda chynffon eliffant, ei lliw yn ddu neu yn gochlyd; mae ei genau yn debyg i'r genau baedd; mae ganddi gyrn yn fwy na chufydd o hyd ac mae'n gallu symud y cyrn hyn ym mhob cyfeiriad yn ôl ei dewis.

Iâl
Enghraifft o'r canlynolcreadur chwedlonol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddir yr iâl fel symbol horodrol y gynrychioli amddiffyniad balch. Ymddangosir ialod fel cynheiliaid yn arfbais Tŷ Beaufort. Roedd Arglwyddes Margaret Beaufort yn gymwynaswr i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, a Choleg Crist, Caergrawnt, felly gellir gweld ialod uwchben pyrth y colegau hynny.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato