I Orwedd Mewn Preseb

Emyn Nadolig

Mae I Orwedd mewn Preseb yn emyn Nadolig, neu garol, Cristinogol a addaswyd i'r Gymraeg gan E Cefni Jones. Mae'n emyn rhif 450 yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001.[1] Arferid credu mai awdur yr emyn gwreiddiol oedd y diwygiwr crefyddol Almaenig Martin Luther. Bellach credir bod y carol yn deillio o awdur Americanaidd anhysbys yn wreiddiol.[2] Fel arfer mae'r fersiwn Gymraeg yn cael ei ganu i dôn a gyfansoddwyd gan William J. Kirkpatrick ym 1895.

Y baban Iesu yn ei Breseb

Awduraeth Luther golygu

Mae nifer o gyhoeddiadau cynnar fersiwn Saesneg yr emyn Away in a Manger, gan gynnwys y cynharaf y gwyddys amdanynt, yn honni mae'r diwygiwr Protestannaidd Almaenig Martin Luther oedd ei awdur. Mae llawer yn rhoi'r teitl Emyn Cryd Luther iddo gan awgrymu bod y geiriau wedi ei gyfieithu o'r Almaeneg [3]. Parhawyd i wneud honiadau am awduraeth Luther ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif, ond erbyn hyn mae'n cael ei wrthod fel amheus am y rhesymau a ganlyn:

  • Nid oes testun yn ysgrifau hysbys Luther sy'n cyfateb i'r carol.
  • Ni ddarganfuwyd testun Almaeneg ar gyfer y carol cyn 1934, dros hanner can mlynedd ar ôl y cyhoeddiad Saesneg cyntaf. Mae'r testun Almaeneg hwnnw'n darllen yn wan, ac ymddangos fel ei fod yn gyfieithiad gwael o'r Saesneg.
  • Mae arddull naratif y carol yn annodweddiadol o Luther
  • Pan fo ffynonellau cynharach o'r 19g yn sôn am garol a ysgrifennwyd gan Luther ar gyfer ei fab Hans, maent yn cyfeirio at destun gwahanol: Vom Himmel hoch, da komm ich her (O'r Nefoedd Uchod i'r Ddaear Rwy'n Dyfod).

Awgrymodd Richard Hill, mewn astudiaeth gynhwysfawr o'r carol a ysgrifennwyd ym 1945, y gallai'r garol fod wedi tarddu o "ddrama fach i blant cael actio hanes Luther yn dathlu'r Nadolig gyda'i blant", a ysgrifennwyd i ddathlu pedwar canmlwyddiant genedigaeth y diwygiwr ym 1883.[2]

Y fersiwn Cymraeg golygu

Cafwyd sawl ymgais i gyfieithu'r garol i'r Gymraeg, ond yr un sydd wedi goroesi fel yr un sy'n cael ei ganu amlaf yw addasiad E Cefni Jones. Roedd Cefni Jones yn un o olygyddion Y Llawlyfr Moliant Newydd, llyfr emynau enwad y Bedyddwyr a gyhoeddwyd ym 1952 a chyfansoddwyd I orwedd Mewn Preseb ganddo ar gyfer y cyhoeddiad.[4][5]

Cyd-destun Beiblaidd golygu

Mae'r emyn yn cyfeirio at hanes genedigaeth yr Iesu a cheir yn Efengyl Luc Pennod 2:1-7:

Roedd Joseff a'i wraig feichiog Mair yn gorfod teithio o Nasareth, lle'r oeddynt yn byw, i Fethlehem, cartref ei hynafiaid, er mwyn cael eu rhestru mewn cyfrifiad. Wedi cyrraedd Bethlehem bu'n chwilio am le i aros. Gan fod yr holl westai yn llawn o bobl eraill oedd wedi teithio yno ar gyfer y cyfrifiad, yr unig le gallai cael fel lloches oedd beudy. Wrth aros dros nos yn y beudy esgorodd Mair ar ei mab Iesu Grist a'i roi i orwedd mewn preseb (cafn bwydo anifeiliaid) yn y beudy.[6]

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Caneuon Ffydd, Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Gwasg Gomer 2001 rhif 450
  2. 2.0 2.1 Not So Far Away In A Manger - Richard S. Hill - Music Library Association "Notes" - Rhagfyr, 1945 Ail Gyfres, Cyf. III, Rhif. 1 adalwyd 19 Rhagfyr 2018
  3. Luther's Cradle Song. The Myrtle. Boston, MA: Universalist Publishing House. xxxiv (1): 6. 3 Mai, 1884 adalwyd 19 Rhagfyr 2018
  4. Delyth G. Morgans; Cydymaith Caneuon Ffydd tud 158; Pwyllgor Caneuon Ffydd; 19 Rhagfyr 2008; ISBN 9781862250529
  5. E. Wyn James; Carolau a'u Cefndir; tud 26; Gwasg Efengylaidd Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr 1989; ISBN 9781850490678
  6. Beibl Cymraeg Newydd Luc 2:7: adalwyd 19 Rhagfyr 2018


Dolenni allanol golygu

Fideo YouTube o Gôr Prifysgol Abertawe yn canu I Orwedd Mewn Preseb