Golffiwr proffesiynol Cymreig yw Ian Harold Woosnam (ganed 2 Mawrth, 1958). Ganed ef yn nhref Croesoswallt, a dechreuodd chwarae golff yng Nghlwb Golff Llanymynech. Trodd yn broffesiynol yn 1976, a chafodd yrfa lwyddiannus, er ei fod yn anarferol o fyr i olffiwr proffesiynol, 5 troedfedd 4½ modfedd (1.64 m).

Ian Woosnam
FfugenwWoosie Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Mawrth 1958 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolffiwr Edit this on Wikidata
Taldra1.64 metr Edit this on Wikidata
Pwysau73 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, 'Hall of Fame' Golff y Byd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auEuropean Ryder Cup team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Yn 1991, enillodd dwrnamaint yr U.S. Masters, y golffiwr cyntaf sy'n cynrychilio Cymru i ennill un o'r majors. Y flwyddyn honno, cyrhaeddodd rhif 1 ymhlith golffwyr y byd, a daliodd y safle honno am 50 wythnos.

Roedd yn aelod o dîm Ewrop yng Nghwpan Ryder am wyth cystadleuaeth yn olynol rhwng 1983 a 1997. Yn 2006, deiswyd ef yn gapten tîm Ewrop, ac arweiniodd hwy i fuddugoliaeth 18½-9½ yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Rhagflaenydd:
Steve Barry
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1983
Olynydd:
Ian Rush
Rhagflaenydd:
Kirsty Wade
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1987
Olynydd:
Colin Jackson
Rhagflaenydd:
Stephen Dodd
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1990
Olynydd:
Ian Woosnam
Rhagflaenydd:
Ian Woosnam
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1991
Olynydd:
Tanni Grey-Thompson