Ibn al-Banna al-Marrakushi

Mathemategydd, athronydd a seryddwr Arabaidd oedd Ibn al-Banna al-Marrakushi al-Azdi, a adwaenir hefyd fel Abu'l-Abbas Ahmad ibn Muhammad ibn Uthman al-Azdi (Arabeg: ابن البنّا‎) (29 Rhagfyr 1256 – c. 1321). Enwir crater Al-Marrakushi ar y Lleuad ar ei ôl.

Ibn al-Banna al-Marrakushi
Ganwyd29 Rhagfyr 1256 Edit this on Wikidata
Marrakech Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1321 Edit this on Wikidata
Marrakech Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, seryddwr, astroleg, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganed Al-Banna yn fab pensaer ym Marrakech, Moroco yn 1256. Ar ôl dysgu elfennau mathemateg a geometreg, aeth ymlaen i gyfieithu Elfennau Euclid i'r Arabeg.[1]

Cyhoeddodd rhwng 51 a 74 traethawd, ar bynciau amrywiol yn cynnwys Algebra, Seryddiaeth, Ieithyddiaeth, Rhethreg, a Rhesymeg. Mae ei weithiau yn cynnwys:

  • Talkhis amal al-hisab (Arabeg, تلخيص عمل الحساب ) ('Crynodeb o brosesau rhifyddeg)
  • Tanbih al-Albab, ar bynciau amrywiol
  • Raf al-Hijab ('Codi'r Gorchudd'), ar fathemateg

Cyfeiriadau golygu

  1. G. Sarton, Introduction to the History of Science (The Carnegie Institution, Washington, 1927), cyf 2, t. 998.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ahmed Jabbar a Mohammed Ablagh, Life and Works of Ibn al-Banaa al-Murrakushi (Rabat, 2001). Bywgraffiad.