Mae ibwproffen yn feddyginiaeth yn y dosbarth cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) a ddefnyddir i drin poen, twymyn a llid.[1] Mae hyn yn cynnwys cyfnodau misglwyf poenus, y meigryn, y ddannoedd, a'r gwynegon. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₈O₂. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gau patent ductus arteriosus mewn babanod cynamserol. Gellir ei ddefnyddio trwy'r geg, yn fewnwythiennol ac fel jel argroenol. Fel arfer mae'n dechrau gweithio o fewn awr[2].

Ibwproffen
Ibuprofen generic o Archfarchnad Tesco
Delwedd:Ibuprofen2.svg, Ibuprofen.svg
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Matharomatic compound, asid carbocsylig Edit this on Wikidata
Màs206.131 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₃h₁₈o₂ edit this on wikidata
Enw WHOIbuprofen edit this on wikidata
Clefydau i'w trinPoen, gorwres, osteoarthritis, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, gout attack, sbondylitis asiol, llid, crydcymalau gwynegol, enthesopathy, bwrsitis, tyndra'r mislif, osteoarthritis susceptibility 1, tonsilitis, cur pen eithafol, fibromyalgia, llid y sinysau, gowt, nasopharyngitis, gwynegon, gastroenteritis, dolur gwddw, sleep-wake disorder edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sgil effeithiau golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys llosg cylla a brechod. O'i gymharu â NSAIDau eraill, gallai fod llai o sgil effeithiau megis gwaedu gastro-berfeddol. Mae'n cynyddu'r risg o fethiant y galon, methiant yr arennau, a methiant yr iau. Mewn dosau isel, nid yw'n ymddangos ei fod yn cynyddu'r perygl o gael trawiad ar y galon; fodd bynnag, o gymryd dosau uwch efallai y bydd. Gall Ibuprofen hefyd arwain at waethygu asthma. Er nad yw'n glir os yw'n ddiogel yn ystod beichiogrwydd cynnar, ymddengys ei fod yn niweidiol mewn beichiogrwydd yn ddiweddarach ac felly nid yw'n cael ei argymell. Fel NSAIDau eraill, mae'n gweithio drwy atal cynhyrchu prostaglandinau trwy ostwng gweithgaredd yr ensym cyclooxygenase. Mae Ibuprofen yn gyffur gwrthlidiol gwannach na NSAIDau eraill.

Hanes golygu

Darganfuwyd Ibuprofen ym 1961 gan Stewart Adams (1923−2019)) o gwmni Boots, a oedd yn chwilio am foddion ar gyfer ei ben mawr. Cafodd ei farchnata i ddechrau fel Brufen. Mae ar gael o dan nifer o enwau masnachol, gan gynnwys Advil and Motrin. Cafodd ei farchnata gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1969 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1974. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[3], y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig. Mae'n feddyginiaeth gellir ei brynu dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd heb yr angen am bresgripsiwn na phresenoldeb fferyllydd.

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • poen
  • gorwres
  • Osteoarthritis
  • crydcymalau gwynegol ieuengaidd
  • sbondylitis asiol
  • llid
  • crydcymalau gwynegol
  • bwrsitis
  • tyndra'r mislif
  • tonsilitis
  • Cur pen eithafol
  • llid y sinysau
  • cymalwst
  • Gwynegon
  • Gastroenteritis
  • Dolur gwddw
  • Enwau golygu

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ibwproffen, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau golygu

    1. Pubchem. "Ibwproffen". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Galw iechyd Cymru - Ibuprofen[dolen marw] adalwyd 14 Ionawr 2018
    3. WHO Model Lists of Essential Medicines adalwyd 14 Ionawr 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!