Ieithoedd Awstronesaidd

Teulu ieithyddol

Un o'r prif deuluoedd ieithyddol yw'r ieithoedd Awstronesaidd. Siaredir ieithoedd yn perthyn i'r teulu yma ar draws ardal eang yn ne-ddwyrain Asia ac ar draws ynysoedd y Cefnfor Tawel. Mae'n un o'r teuluoedd ieithyddol mwyaf, gyda 1269 iaith yn perthyn iddo yn ôl Ethnologue, a thua 270 miliwn oi siaradwyr. Daw'r enw o'r Lladin australis ("deheuol") a'r Groeg: nesos (νήσος) ("ynys").

Mae cryn ddadlau wedi bod ynghylch dosbarthiad yr ieithoedd Awstronesaidd. Yn gyffredinol, ystyrir fod 12 is-deulu. Y mwyaf o'r rhain yw'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd. Yr iaith Awstronesaidd sydd a mwyaf o siaradwyr yw Indoneseg.

Dosbarthiad golygu