Bardd o Feirionnydd a ganai yn ail hanner y 15g oedd Ieuan Dyfi (ganed tua 1460). Bardd serch oedd Ieaun yn bennaf, sy'n adnabyddus am ei gerddi i'w gariad, Anni Goch, ac a gofir hefyd am ei gerddi ymryson â Gwerful Mechain a Dafydd Llwyd o Fathafarn.[1]

Ieuan Dyfi
Ganwyd1461 Edit this on Wikidata
Bu farw1500 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd a cherddi golygu

Ychydig a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Yn ôl y Dr John Davies o Fallwyd, roedd yn frodor o Aberdyfi, ac mae ei enw barddol yn ategu hynny.[1]

Cedwir deuddeg o destunau y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd. Cywyddau ydynt i gyd. Mae pump yn gywyddau serch i Anni Goch. Ysgogodd un o'r rhain, sy'n ceisio profi twyll gwragedd trwy'r oesoedd o gyfnod Efa ymlaen, ymateb cofiadwy gan y brydyddes Gwerful Mechain. Ceir cywydd hefyd yn ceisio tawelu'r dyfroedd rhwng Ieuan a Dafydd Llwyd o Fathafarn. Ond cofir Ieuan yn bennaf am ei ganu serch telynegol a'i hoffder o natur.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Cyfrol sy'n cynnwys 'Gwaith Ieuan Dyfi', gyda nodiadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.