Pentref hanesyddol a phlwyf sifil yn ne Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Ilchester.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Gwlad yr Haf. Mae'n gorwedd ar lan Afon Yeo ger yr A303, tua 14 milltir i'r de-ddwyrain o Bridgwater.

Ilchester
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe Gwlad yr Haf
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.0011°N 2.6825°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04008710 Edit this on Wikidata
Cod OSST522226 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,153.[2]

Yn Oes yr Haearn, wrth yr enw Lindinis, roedd yn un o brif ddinasoedd y Durotriges, llwyth Celtaidd a'u tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Eu prif ddinas arall oedd Durnovaria (Dorchester heddiw). Yn ddiweddarach datblygodd dinas Rufeinig ar y safle.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 13 Hydref 2019
  2. City Population; adalwyd 13 Hydref 2019
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.