Llyfr, pamffled neu argrafflen a argraffwyd yn Ewrop cyn y flwyddyn 1501 yw incwnabwlwm (lluosog incwnabwla). Nid yw incwnabwla yn llawysgrifau.

Der Edelstein gan Ulrich Boner, a argraffwyd gan Albrecht Pfister yn 1461, oedd yr incwnabwlwm cyntaf i gynnwys torluniau pren.

Daw'r gair 'incunabwlwm' o'r Lladin am "ddillad rhwymo" neu "crud",[1] sydd yn yr achos hwn yn gyfeiriad at y camau cynharaf yn natblygiad llyfrau print.[2] 

Defnyddiwyd y term incunabwla gyntaf yng nghyd-destun argraffu gan y ffisegydd a dyneiddiwr o'r Iseldiroedd Hadrianus Iunius (Adriaan de Jonghe, 1511–1575) ac mae'n ymddangos mewn gwaith a ysgrifennwyd ganddo yn 1569 ond a argraffwyd yn dilyn ei farwolaeth.[3]

Trwy gamddealltwriaeth y priodolwyd y term i Bernhard von Mallinckrodt (1591–1664) wedi iddo ddefnyddio'r union eiriau a ddefnyddiodd Hadrianus Iunius mewn pamffled a ysgrifennodd ac a argraffwyd yn 1640.[4] Ar ddiwedd y 17g y daeth y term incwnabwla i ddynodi'r llyfrau argraffiedig eu hunain, heb gynnwys llawysgrifau.

Mae'r enghreifftiau enwocaf o incwnabwla yn cynnwys dau o Mainz, sef Beibl Gutenberg (1455) a Peregrinatio in terram sanctam (1486), a argraffwyd ac a ddarluniwyd gan Erhard Reuwich; Cronicl Nuremberg a ysgrifennwyd gan Hartmann Schedel ac a argraffwyd gan Anton Koberger yn 1493; a Hypnerotomachia Poliphili a argraffwyd gan Aldus Manutius gyda darluniau gan arlunydd anhysbys.

Ymhlith argraffwyr incwnabwla eraill roedd Günther ZainerAugsburg, Johannes MentelinHeinrich EggesteinStrasbwrg, Heinrich GranHaguenauWilliam CaxtonBrugge a Llundain. Yr incwnabwlwm cyntaf i gynnwys torluniau pren oedd Der Edelstein gan Ulrich Boner, a argraffwyd gan Albrecht Pfister yn Bamberg yn 1461.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. C. T. Lewis and C. Short, A Latin Dictionary, Oxford 1879, p. 930. Nid yw'r gair unigol incunabulum i'w ganfod yn y Lladin a phrin y bydd yn cael ei ddefnyddio. Y lluosog incwnabwla a ddefnyddir bron bob amser.
  2. Oxford English Dictionary, 1933, I:188.
  3. Glomski, J (2001). "Incunabula Typographiae: seventeenth-century views on early printing". The Library 2: 336. doi:10.1093/library/2.4.336. https://archive.org/details/sim_electronic-library_2001_19_5/page/336.
  4. Sordet, Yann (2009). "Le baptême inconscient de l'incunable: non pas 1640 mais 1569 au plus tard" (yn French). Gutenberg Jahrbuch 84: 102–105. https://hal.archives-ouvertes.fr/hal-00791398v2.
  5. Daniel De Simone (ed), A Heavenly Craft: the Woodcut in Early Printed Books, New York, 2004, p. 48.