Ras geir flynyddol yw'r Indianapolis 500, sy'n cael ei chynnal yn yr Indianapolis Motor Speedway (IMS) yn nhref Speedway, Indiana, un o faestrefi dinas Indianapolis yn nhalaith Indiana yn yr Unol Daleithiau America. Mae'r trac yn hirsgwar crwn 2.5 milltir o hyd. Mae'r gyrwyr yn mynd rownd y trac 200 o weithiau yn wrth-glocwedd am bellter o 500 mile (800 km). Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar benwythnos Dydd y Cofio yr UDA ddiwedd mis Mai. Mae ymarferion a threialon amser yn cael eu cynnal yn y pythefnos sy'n arwain at y ras.

Indianapolis 500
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, Formula One event Edit this on Wikidata
MathIndyCar race, Formula One Grand Prix Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1911 Edit this on Wikidata
LleoliadIndianapolis Motor Speedway Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1923 Indianapolis 500, 1978 Indianapolis 500, 2007 Indianapolis 500, 1952 Indianapolis 500, 1951 Indianapolis 500, 1950 Indianapolis 500, 1953 Indianapolis 500, 1954 Indianapolis 500, 1986 Indianapolis 500, 1932 Indianapolis 500, 1941 Indianapolis 500, 1965 Indianapolis 500, 1924 Indianapolis 500, 1921 Indianapolis 500, 1911 Indianapolis 500, 1915 Indianapolis 500, 1913 Indianapolis 500, 1919 Indianapolis 500, 1920 Indianapolis 500, 1922 Indianapolis 500, 1925 Indianapolis 500, 1988 Indianapolis 500, 1982 Indianapolis 500, 1990 Indianapolis 500, 1996 Indianapolis 500, 1998 Indianapolis 500, 1997 Indianapolis 500, 1989 Indianapolis 500, 1979 Indianapolis 500, 2001 Indianapolis 500, 2005 Indianapolis 500, 2006 Indianapolis 500, 2004 Indianapolis 500, 1995 Indianapolis 500, 2009 Indianapolis 500, 2011 Indianapolis 500, 1955 Indianapolis 500, 1956 Indianapolis 500, 1957 Indianapolis 500, 1958 Indianapolis 500, 1959 Indianapolis 500, 1960 Indianapolis 500, 1947 Indianapolis 500, 1993 Indianapolis 500, 1992 Indianapolis 500, 2000 Indianapolis 500, 1994 Indianapolis 500, 1929 Indianapolis 500, 2003 Indianapolis 500, 1937 Indianapolis 500, 2002 Indianapolis 500, 1977 Indianapolis 500, 1991 Indianapolis 500, 1971 Indianapolis 500, 1999 Indianapolis 500, 1946 Indianapolis 500, 1987 Indianapolis 500, 2010 Indianapolis 500, 1912 Indianapolis 500, 1968 Indianapolis 500, 1963 Indianapolis 500, 1964 Indianapolis 500, 1974 Indianapolis 500, 1948 Indianapolis 500, 1930 Indianapolis 500, 1962 Indianapolis 500, 1985 Indianapolis 500, 1984 Indianapolis 500, 1928 Indianapolis 500, 1927 Indianapolis 500, 1926 Indianapolis 500, 1969 Indianapolis 500, 1916 Indianapolis 500, 1933 Indianapolis 500, 1967 Indianapolis 500, 1931 Indianapolis 500, 1939 Indianapolis 500, 1966 Indianapolis 500, 1981 Indianapolis 500, 1936 Indianapolis 500, 1973 Indianapolis 500, 1972 Indianapolis 500, 1975 Indianapolis 500, 1980 Indianapolis 500, 1934 Indianapolis 500, 1935 Indianapolis 500, 1970 Indianapolis 500, 1938 Indianapolis 500, 2013 Indianapolis 500, 1914 Indianapolis 500, 1976 Indianapolis 500, 2016 Indianapolis 500, 2017 Indianapolis 500, 1949 Indianapolis 500, 1983 Indianapolis 500, 1940 Indianapolis 500 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthIndiana Edit this on Wikidata
Hyd2.5 milltir Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.indy500.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ras yn rhan o gyfres Verizon INDYCAR, lefel uchaf Pencampwriaeth Rasio Ceir Americanaidd, sy'n cael ei adnabod ar lafar fel "Rasio Indy Car".

Mae'r ras yn cael ei hystyried yn rhan o Goron Driphlyg Rasio Ceir, sydd hefyd yn cynnwys Grand Prix Monaco a ras 24 Awr Le Mans. Nid yw maint y dorf yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol, ond mae seddi yno ar gyfer dros 250,000 o bobl.[1]

Mae enw'r ras, sy'n cyfuno ei lleoliad a'i phellter, yn cael ei fyrhau i Indy 500, ac mae'r trac ei hun yn cael ei alw'n "the Brickyard" am fod ei arwyneb wedi'i wneud o fric pan gafodd ei osod yn hydref 1909.

Cynhaliwyd y ras gyntaf yn 1911 a Ray Harroun oedd yr enillydd. Dathlodd y digwyddiad ei benblwydd yn 100 yn 2011, a chynhaliwyd y 100fed ras yn 2016. Y gyrwyr mwyaf llwyddiannus dros y blynyddoedd oedd A. J. Foyt, Al Unser Sr., a Rick Mears, pob un ohonynt wedi ennill y ras bedair gwaith. Y perchennog mwyaf llwyddiannus yw Roger Penske, perchennog Team Penske, sydd wedi ennill 17 o weithiau ac 17 ar flaen y grid.

Mae yna lawer o draddiadau yn gysylltiedig â'r ras, yn y seremonïau cyn y ras, y dathliadau sy'n dilyn, a threfn y ras. Y mwyaf nodedig a'r mwyaf poblogaidd yw'r maes o 33 car, canu "Back Home Again in Indiana," a'r botel o laeth yn y lôn fuddugol.

Indianapolis Motor Speedway, lleoliad ras yr Indianapolis 500

Cyfeiriadau golygu

  1. "World Stadiums - Stadium List :: 100 000+ Stadiums". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-23. Cyrchwyd 1 Mai 2016.