Inferno (ffilm 2016)

Mae Inferno yn ffilm gyffrous Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ron Howard ac ysgrifennwyd gan David Koepp. Fe'i seiliwyd ar y nofel 2013 o'r un enw gan Dan Brown. Dilyna Inferno y ffilm Angels & Demons, gyda Tom Hanks yn ailgydio yn ei rôl fel Robert Langdon. Yn ogystal â Hanks, serenna Felicity Jones, Omar Sy, Sidse Babett Knudsen, Ben Foster, ac Irrfan Khan yn y ffilm. Dechreuodd ffilmio ar 27 Ebrill 2015 yn Fenis, yr Eidal a daeth i ben ar 21 Gorffennaf 2015. Rhyddheir y ffilm ar 28 Hydref 2016 mewn fformatau 3D a 2D.

Inferno
Cyfarwyddwr Ron Howard
Cynhyrchydd Brian Grazer
Michael De Luca
Andrea Giannetti
Ysgrifennwr Sgript gan
David Koepp
Seiliwyd ar
Inferno
gan Dan Brown
Serennu Tom Hanks
Felicity Jones
Omar Sy
Ben Foster
Irrfan Khan
Sidse Babett Knudsen
Cerddoriaeth Hans Zimmer
Sinematograffeg Salvatore Totino
Golygydd Tom Elkins
Dan Hanley
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Imagine Entertainment
Skylark Productions
Dyddiad rhyddhau 28 Hydref 2016
(Yr Unol Daleithiau)
Dosbarthwyr
Columbia Pictures
Amser rhedeg I'w gyhoeddi
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Plot golygu

Dihuna Robert Langdon mewn ystafell ysbyty yn Fflorens, yr Eidal, heb unrhyw atgofion o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf. Daw yn amlwg ei fod, unwaith eto, yn darged mewn helfa ddynion. Ond gyda help Dr. Sienna Brooks, a'i wybodaeth o symboleg, ceisia Langdon adennill ei ryddid, a'i atgofion coll, wrth iddo ddatrys y dirgelwch mwyaf mae erioed wedi'i wynebu.[1]

Cast golygu

  • Tom Hanks fel Robert Langdon, athro symboleg ym Mhrifysgol Harvard.[1]
  • Felicity Jones fel Dr. Sienna Brooks, doctor sy'n helpu Langdon ddianc.[2]
  • Omar Sy fel Christoph Bruder, pennaeth y tîm SRS.[2]
  • Ben Foster fel Bertrand Zobrist, gwyddonydd trawsddyneiddiol sydd am ddatrys problem or-boblogaeth y byd.[3][4]
  • Irrfan Khan fel Harry "The Provost" Sims, pennaeth y Consortiwm, sy'n helpu Zobrist gyda'i genhadaeth.[2]
  • Sidse Babett Knudsen fel Elizabeth Sinskey, pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd.[2]
  • Ana Ularu fel Vayentha, asiant y Consortiwm yn Fflorens sy'n gyfrifol am ddilyn Langdon.[4]
  • Jon Donahue fel Richard[4]

Rhyddhad golygu

Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Sony y rhyddheir y ffilm ar 18 Rhagfyr 2015,[5] ond oherwydd rhyddhad Star Wars: The Force Awakens, symudwyd y dyddiad yn ôl blwyddyn i 14 Hydref, 2016.[6] Fe'i symudwyd eto i 28 Hydref 2016.[7] Bydd y ffilm ar gael mewn fformatau 2D a 3D.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Fleming Jr, Mike (26 Awst 2014). "Sony Pictures Locks Tom Hanks, Ron Howard For April 'Inferno' Start". Deadline.com. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Hipes, Patrick (17 Chwefror 2015). "Robert Langdon Pic 'Inferno' Adds Omar Sy & More As Cast Goes Global". Deadline.com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2015.
  3. Kit, Borys (10 Mawrth 2015). "Ben Foster Joining Tom Hanks in 'Inferno' (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
  4. 4.0 4.1 4.2 "'Da Vinci Code' Sequel 'Inferno' Starring Tom Hanks Starts Filming In Italy: See Behind-The-Scenes PHOTOS". Fashion & Style. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-05. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
  5. Kilday, Gregg (16 Gorffennaf 2013). "Sony Sets Release Date for Film Adaptation of Dan Brown's 'Inferno'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
  6. Sneider, Jeff (9 Hydref 2014). "Tom Hanks, Ron Howard's 'Inferno' Moves Off 'Star Wars: Episode VII' Release Date". TheWrap. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
  7. Gallagher, Brian. "'The Ring' Sequel 'Rings' Gets a New Halloween Release Date". MovieWeb. Cyrchwyd 14 Mawrth 2016.
  8. "Hydref 2016 Releases". Film Distributors' Association. Cyrchwyd 27 Ionawr 2016.[dolen marw]