Inswlin (meddyginiaeth)

Defnyddir inswlin fel meddyginiaeth i drin lefelau uchel o siwgr yn y gwaed. Mae hyn yn cynnwys diabetes mellitus math 1, diabetes mellitus math 2, diabetes yn ystod beichiogrwydd, a chymhlethdodau o ganlyniad i diabetes, er enghraifft cetoacidosis diabetig a chyflyrau hyperglycemic hyperosmolaidd. Defnyddir ar y cyd â glwcos er mwyn trin lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed.[1] Fel arfer rhoddir inswlin ar ffurf chwistrelliad oddi tan y croen, gellir hefyd chwistrelli i mewn i wythïen neu gyhyr.[2]

Inswlin
Enghraifft o'r canlynoltherapi Edit this on Wikidata
Mathdiabetes management Edit this on Wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sgil effeithiau golygu

Ymhlith ei sgil effeithau cyffredin y mae lefelau isel o siwgr yn y gwaed. Gall y feddyginiaeth hefyd arwain at boen neu newidiadau yn y croen ar safle'r chwistrelliad, lefelau isel o botasiwm yn y gwaed, ac ymatebiadau alergol. Gellir defnyddio'r cyffur yn ystod beichiogrwydd gan ei fod yn gymharol ddiogel i'r baban. Mae modd creu inswlin allan o bancreas moch neu wartheg. Gellir gwneud fersiynau dynol naill ai trwy addasu fersiynau moch neu drwy ddefnyddio technoleg ailgyfunol. Ceir tri phrif deip o inswlin; gweithredu byrdymor (fel inswlin cyffredin), gweithredu canolradd (fel inswlin NPH), a gweithredu tymor hirach (fel inswlin glargine).[3]

Hanes golygu

Defnyddiwyd inswlin fel meddyginiaeth am y tro cyntaf yng Nghanada ym 1922 gan Charles Best a Frederick Banting.[4] Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[5] Cost gyfanwerthol inswlin cyffredin yn y byd datblygol yw oddeutu $2.39 (doleri UDA) i $ 10.61 i bob 1,000 uned ryngwladol, a $ 2.23 i $ 10.35 i bob 1,000 uned ryngwladol o inswlin NPH.[6][7] Yn GIG y Deyrnas Unedig, y mae'r un swm o inswlin cyffredin neu NPH yn costio £7.48, tra bod 1,000 uned ryngwladol o glargine yn £30.68.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mahoney, BA; Smith, WA; Lo, DS; Tsoi, K; Tonelli, M; Clase, CM (18 April 2005). "Emergency interventions for hyperkalaemia.". The Cochrane Database of Systematic Reviews (2): CD003235. doi:10.1002/14651858.CD003235.pub2. PMID 15846652.
  2. American Society of Health-System Pharmacists. "Insulin Human". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2016. Cyrchwyd 1 Ionawr 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. British national formulary: BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. tt. 464–472. ISBN 9780857111562.
  4. Fleishman JL, Kohler JS, Schindler S (2009). Casebook for The Foundation a Great American Secret. New York: PublicAffairs. t. 22. ISBN 978-0-7867-3425-2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Insulin, Neutral Soluble". International Drug Price Indicator Guide. Cyrchwyd 8 December 2016.
  7. "Insulin, isophane". International Drug Price Indicator Guide. Cyrchwyd 8 December 2016.

Cyffuriau sy'n gweithredu ar y system gyhyrysgerbydol‎