Mae Interpol yn sefydliad rhyngwladol a grëwyd ar y 7 Medi 1923, gyda'r nod o hyrwyddo cydweithio rhwng heddluoedd y byd. Lleolir ei phencadlys yn Lyon yn Ffrainc.

Interpol
Math
sefydliad rhynglywodraethol
Math o fusnes
sefydliad rhyngwladol
Sefydlwyd7 Medi 1923
PencadlysLyon
Nifer a gyflogir
756 (2013)
Lle ffurfioFienna
Gwefanhttps://www.interpol.int/ Edit this on Wikidata

Un o swyddogaethau amlwg Interpol yw cyhoeddi hysbysiadau coch, dogfennau rhybudd rhyngwladol, sy'n hwyluso dilyn trywydd troseddwyr sydd eu heisiau. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys elfennau adnabod ac elfennau cyfreithiol yn ymwneud â'r unigolion, ac maent yn cael eu rhannu ar draws 194 o wledydd sy'n aelodau o Interpol. Maent yn hwyluso gwaith heddluoedd cenedlaethol, wrth adnabod, lleoli, ac arestio'r unigolion er mwyn eu hestraddodi.[1].

Ei harwyddair yw "Cysylltu'r heddlu er mwyn byd mwy diogel", a'i nod yw "Atal a mynd i'r afael â throsedd gyda chydweithio rhyngwladol rhwng heddluoedd"[2].

Pencadlys golygu

Lleolir prif swyddfa Interpol yn ardal Cité internationale yn Lyon, ar 200 quai Charles-de-Gaule yn y 6ed arrondissement, a hynny ers 1 Mai 1989. Rhwng 1946 a 1967 lleolwyd y pencadlys ym Mharis, cyn symud i Saint-Cloud.

Yn ogystal, mae saith swyddfa rhanbarthol:

ac mae tri chenhadaeth:

 
Pencadlys Interpol yn Lyon

Hanes golygu

Sefydlwyd Interpol yn ystod ail Gynghres Rhyngwladol Heddluoedd Troseddol ym 1923. Daeth Johann Schober, cyfarwyddwr heddlu Fienna, â chynrychiolwyr heddluoedd 20 o wledydd ynghyd er mwyn ffurfio Comisiwn Rhyngwladol Heddluoedd Troseddol.

Yn dilyn yr Anschluss ym 1938, daeth y Comisiwn dan rheolaeth y Gestapo, ac fe drosglwyddwyd y pencadlys o Fienna i Berlin ym 1942. Bu i fwyafrif o'r gwledydd oedd yn aelodau peidio â chydweithio. Ail-grëwyd y sefydliad ym 1946 dan ofal Ffrainc, Gwlad Belg, y Deyrnas Gyfunol a gwledydd Scandinafia. Ym 1956, diweddarwyd y cyfansoddiad, ac fe'i hail-enwyd yn Organisation internationale de police criminelle neu Interpol.

Wedi'r rhyfel, polisi mewnol Interpol oedd peidio a dilyn trywydd troseddau oedd yn gysylltiedig â'r drefn Natsïaidd, gan synio eu bod "â natur gwleidyddol".

Fe'i cydnabuwyd fel corff rhyng-lywodraethol gan y Cenhedloedd Unedig ym 1971, a'r flwyddyn ganlynol llyniwyd cytundeb gyda Ffrainc er mwyn lleoli pencadlys Interpol yno. Yn 2003, crëwyd canolfan gyfarwyddo a chydlynnu, ac yn 2004, sefydlwyd swyddfa gysylltiol ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Yn 2008 gorfu i Jackie Selebi, llywydd Interpol ar y pryd, ymddiswyddo, wedi iddo gael ei gyhuddo o gael ei lwgrwobrwyo gan fasnachwr cyffuriau. Fe'i dedfrydwyd i 15 mlynedd yn y carchar gan lys yn Johannesburg ar 3 Awst 2010.

Ar 7 Hydref 2018, cyhoeddodd Interpol eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Meng Hongwei fel llywydd, nad oedd arwydd ohono wedi iddo ddychwelyd i Tsieina ddiwedd fis Medi. Cyhoeddodd swyddfa gwrth-lygredigaeth Tsieina wedi hynny fod ymchwiliadau ar y gweill i dor-cyfraith honedig gan Meng Hongwei.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Le système des notices internationales" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-15. Cyrchwyd 2020-05-02., fiche pratique COM/FS/2012-02/GI-02, interpol.int
  2. Interpol (2014-01-01). "Vision et mission d'Interpol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-05. Cyrchwyd 2020-05-02.
  3. "Modification du Protocole d'accord entre l'Union africaine et INTERPOL" (PDF). 2010-11-08. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-02-23. Cyrchwyd 2020-05-02.
  4. "Order on Interpol Work Inside U.S. Irks Conservatives". 2009-12-30.
  5. "Official opening of INTERPOL's office of its Special Representative to the European Union marks milestone in co-operation". 2009-09-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-24. Cyrchwyd 2020-05-02.