Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey (etholaeth seneddol y DU)

Mae Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon (Danny Alexander). Mae'r etholaeth yn ne-ddwyrain Ucheldir yr Alban.

Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanUcheldir yr Alban
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolDrew Hendry SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oInverness East, Nairn and Lochaber
Ross, Skye & Inverness West
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Drew Hendry, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelodau Seneddol golygu

Ers creu'r etholaeth yn 2005 hyd at Etholiad Cyffredinol 2015 bu Danny Alexander yma'n Aelod Seneddol; ef oedd Prif Ysgrifennydd Trysorlys San Steffan. Ym Mai 2015, chwipiwyd ef allan gan y Cenedlaetholwr Drew Hendry, ar ran yr SNP.

Etholiad Aelod Plaid
2005 Danny Alexander Democratiaid Rhyddfrydol
2015 Drew Hendry SNP
2017 Drew Hendry SNP
2019 Drew Hendry SNP

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|