Mae Iona (Eilean Idhe) yn ynys sy'n un o Ynysoedd Mewnol Heledd oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban. Mae'n rhan o ardal cyngor Argyll a Bute. Saif yr ynys i'r de-orllewin o ynys fwy Muile (Mull), gyda chulfor bychan yn eu gwahanu. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd yn cysylltu'r ynys a Muile, ond nid oes hawl i ymwelwyr fynd a cheir ar yr ynys.

Iona
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth177 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd877 ha Edit this on Wikidata
GerllawSea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.33°N 6.41°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'n gartref i Abaty Iona, un o dai crefydd pwysicaf yr Alban, a sefydlwyd gan y sant Colum Cille. Yr awdur a sant Adamnán oedd nawfed abad Iona.

Claddwyd John Smith, rhagflaenydd Tony Blair fel arweinydd Plaid Lafur, ar Ynys Iona

Abaty Iona
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato