Isaac Roberts

seryddwr

Seryddwr oedd Isaac Roberts (27 Ionawr 182917 Gorffennaf 1904) a ddaeth yn wreiddiol o Groes, yn yr hen Sir Ddinbych.[1][2][3][4] Roedd un o'r gwyddonwyr cyntaf i dynnu lluniau sêr a chysawdau o sêr dros amser estynedig i ddangos nodweddion anodd i'w weld.

Isaac Roberts
Ganwyd27 Ionawr 1829 Edit this on Wikidata
Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1904 Edit this on Wikidata
Crowborough Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseryddwr, peiriannydd, ffotograffydd Edit this on Wikidata
PriodDorothea Klumpke Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol Edit this on Wikidata
telesgop 20-modfedd a 7-modf Isaac Roberts yn ei arsyllfa
Hen adeiladau ar fuarth fferm Groes Bach, man geni Isaac Roberts
Carreg fedd Isaac Roberts

Bywgraffiad golygu

Ganed Isaac Roberts ar fferm Groes Bach yn y bryniau i'r gorllewin o Ddinbych. Symudodd e a'i deulu i fyw yn Lerpwl pan oedd yn blentyn.[1]

Fe ddechreuodd weithio fel prentis i gwmni adeiladu yn Lerpwl yn 1844 pan yn bymtheg oed. Datblygodd enw da am ansawdd ei waith a chododd drwy strwythur y cwmni. Pan fu farw'r perchennog yn 1855 fe wnaed Roberts yn rheolwr. Treuliodd ei amser hamdden drwy addysgu ei hun, yn enwedig drwy fynychu dosbarthiadau nos.[1][4]

Dechreuodd Roberts gwmni adeiladu ei hun yn 1859. Fe gymerodd y cwmni ran mewn llawer o brosiectau adeiladu sylweddol yn ardal Lerpwl a daeth Roberts yn gyfoethog iawn. O ganlyniad i hyn, bu'n bosib iddo ymddeol yn 59 mlwydd oed gyda'r arian i ddilyn ei ddiddordebau hamdden.[1][4]

Priododd Isaac Roberts ei wraig gyntaf yn 1875.

Fe gymerodd ddiddordeb mewn daeareg ac ysgrifennodd bapurau gwyddonol ar y pwnc, gan gynnwys erthyglau ar ddŵr tanddaearol. Fe'i wnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol. Ond am ei gyfraniad i seryddiaeth mae Roberts yn cael ei gofio yn bennaf heddiw.[1]

Bu farw Isaac Roberts yn sydyn yn ei dŷ yng Nghrowborough, Dwyrain Sussex, de-ddwyrain Lloegr, ar 17 Gorffennaf 1904.[1]

Ysgrifennwyd ar ei garreg fedd, "'Born at Groes, near Denbigh, Ionawr 27, 1829, died at Starfield, Crowboro, Sussex, Gorffennaf 17, 1904, who spent his whole life in the search after Truth, and the endeavour to aid the happiness of others. Heaven is within us."

Cyfraniad i seryddiaeth golygu

 
Darlun o Alaeth Mawr Andromeda gan Isaac Roberts

Fe gymerodd Isaac Roberts ddiddordeb mewn seryddiaeth. Ym 1878 prynodd delesgop gyda lens 7 modfedd o ddiamedr i ddefnyddio o'i gartref yn Rock Ferry, Penbedw. Symudodd i fyw i Maghull, ger Lerpwl, ac yna dechreuodd dynnu lluniau o'r sêr ar platiau ffotograffig, drwy ddefnyddio ambell lens bach glymwyd i'w delesgop i ddilyn symudiad y sêr ar draws y wybren a achoswyd gan droad dyddiol y Ddaear.[1]

Erbyn Ionawr 1886, roedd yn Llywydd Cymdeithas Seryddol Lerpwl, ac wedi cymryd dros 200 o ffotograffau o'r sêr, gan gynnwys Nifwl Mawr Orion, Nifwl Mawr Andromeda a'r Pleiades. Roedd rhai o'r rhain yn dangos manylion nad oedd i'w weld i'r llygad pan yn edrych drwy delesgop.[1]

Penderfynodd Isaac Roberts brynu telesgop mawr newydd i arbenigo ar ffotograffiaeth sêr. Archebodd delesgop adlewyrchol gyda drych 18 modfedd o ddiamedr o'r cwmni enwog Grubb yn Nulun, ac yn fuan wedyn, un gwell gyda drych 20 modfedd. Defnyddiodd Roberts y telesgop i dynnu ffotograffau dros amser estynedig drwy symud y telesgop i wrth-weithio troad y Ddaear. Drwy gynnull goleuni ar blatiau ffotograffydd dros gyfnod o awr neu fwy, llwyddodd i gofnodi sêr, nifylau a nodweddion doedd neb wedi eu gweld o'r blaen. Rhan allweddol o hyn oedd defnyddio ail delesgop ar yr un peirianwaith i alluogi e i gywiro methiannau yn y symudiad i ddilyn y sêr.[1]

Rhwystrwyd waith seryddol Roberts gan y tywydd yn ardal Lerpwl. Felly fe benderfynodd symud i fyw i leoliad oedd yn cynnig awyr gliriach. Dewisodd Sussex yn ne-ddwyrain Lloegr, a symudodd i dref Crowborough, lle adeiladodd arsyllfa yn ymyl ei dŷ newydd. Gyda'i gynorthwywr, William Sadler Franks, llwyddodd i greu ffotograffau o lawer o glystyrau sêr a nifylau. Roedd rhain yn cynnwys nifylau troellog a gydnabyddir heddiw fel alaethau troellog. Rhai o'i ffotograffau mwyaf bwysig oedd rhes o luniau o Nifwl Mawr Andromeda a arweinir iddo sylweddoli bod y nifwl troellog agosaf i'r Ddaear oedd y nifwl. Cyhoeddodd copiau o lawer o'r darluniau gorau mewn dwy gyfrol mawr yn 1893 a 1899.[1]

Etholwyd Isaac Roberts yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1890. Derbyniodd radd doethor mewn gwyddoniaeth gan Goleg y Drindod, Dulyn, yn 1892, a Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 1895 am ei waith.[1]

Fe aeth Isaac Roberts i arsyllu diffyg cyflawn ar yr Haul yn Norwy yn 1896. Yno fe gwrddodd â seryddwraig Americanaidd o'r enw Dorothea Klumpke. Fe briododd y ddau yn 1901. Dorothea Klumpke-Roberts (1861–1942) oedd un o hyrwyddwyr pennaf gwaith Isaac ar ôl ei farwolaeth.[1]

Fe ddaeth y technegau a ddefnyddiodd Isaac Roberts yn rhan sylfaenol o seryddiaeth yr 20g.

Yn 2014, fel rhan o Brosiect Cysylltu Tref-Castell Dinbych [5], gosodwyd caeadau tyllau archwilio newydd ar hyd Lôn Brombil.

Mae’r arlunydd Rebecca Gouldson [6] wedi defnyddio mapiau hanesyddol o Ddinbych yn eu dyluniadau gan ymgorffori manylion a phobl hanesyddol. Ar gyfer Isaac Roberts bu rhaid troi at fap o’r sêr ac mae’r arlunydd wedi llwyddo i gynnwys caead sydd yn cyfeirio at ei waith fel arloeswr ym maes astroffotograffeg.

 

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 "Obituary Notices of Fellows Deceased". Proceedings of the Royal Society 75: 356–363. 1905. http://gallica.bnf.fr/ark:/12148/bpt6k56168b/f371.chemindefer. [1] [2] [3] Archifwyd 2015-06-07 yn y Peiriant Wayback.
  2. "Isaac Roberts". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society 65 (4): 345–347. 1905. http://adsabs.harvard.edu/full/1905MNRAS..65R.345..
  3. Franks, William Sadler (1904). "Dr. Isaac Roberts, F.R.S.". The Observatory 27: 300–303. http://adsabs.harvard.edu/full/1904Obs....27..300..
  4. 4.0 4.1 4.2 Roberts, Eleazar (1904). "Isaac Roberts, D.Sc., F.R.A.S.". Y Geninen 22 (4): 276–283.
  5. https://cadw.gov.wales/about/news/denbigh-town-castle-project/?skip=1&lang=cy
  6. https://www.rebeccagouldson.com/gallery/#/denbigh

Darllen pellach golygu

Roberts, Eleazar (17 Tachwedd 1904), "Y Dr. Isaac Roberts", Y Cymro: tud. 5, http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3454675/ART30 (eitem ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein gyda dyfyniad o'r ethygl yn Y Genhinen (1904)).

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: