Y strwythurau, systemau a chyfleusterau sy'n cynnal neu wasanaethu ardal ddaearyddol neu ddiwydiant penodol yw isadeiledd,[1] tanadeiledd,[2] seilwaith neu rwydwaith mewnol. Casgliad o'r adeileddau sy'n gosod sylfaen economaidd ar gyfer system ryng-gysylltiol yw isadeiledd: y cyfarpar cyfalaf sy'n ffurfio fframwaith er mwyn i economi weithredu.[3] Mae isadeiledd yn nodwedd hollbwysig o'r byd modern, ac yn hanfodol wrth alluogi safonau byw da, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at yr adeiladwaith materol sy'n galw am arbenigedd technegol ac arian i'w gynnal a chadw: ffyrdd, pontydd, twneli, rheilffyrdd, dociau, pibelli dŵr, carthffosydd, ceblau trydan, telegyfathrebu, ac ati. Mewn ystyr ehangach, sy'n ystyried sylfeini cymdeithasol a gwleidyddol, gall isadeiledd gynnwys sefydliadau megis y llywodraeth, yr heddlu, llysoedd barn, ysbytai, banciau ac ysgolion.

Golwg oddi uchod ar gornel stryd yn San Francisco: tram, car codi, ffordd foduron, a mynedfa'r rheilffordd danddaearol. System gludiant cyhoeddus yw un o hanfodion y ddinas fodern.

Gwasanaethau cyhoeddus yw isadeiledd yn gyffredinol ac felly dan reolaeth y wladwriaeth, naill ai drwy berchenogaeth neu reoliadau cyfreithiol. Mae isadeiledd mewn gwledydd sy'n llai economaidd ddatblygedig yn tueddu i fod yn annibynadwy neu heb fod ar gael ac yn rhwystro datblygiad economaidd.[4] Oherwydd ei gostau uchel, mae'n rhaid i wledydd datblygedig fuddsoddi mewn isadeiledd yn gyson er mwyn ei atal rhag dirywio ac i'w uwchraddio yn sgil datblygiadau technolegol.

Cyfeiriadau golygu

  1.  isadeiledd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
  2.  tanadeiledd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
  3. Arthur O'Sullivan a Stven M. Sheffrin. Economics: Principles in Action (Upper Saddle River, New Jersey, Pearson Prentice Hall, 2003), t. 474.
  4. John Black, Nigar Hashimzade, a Gareth Myles. A Dictionary of Economics (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 229.