Ivor Roberts-Jones

cerflunydd (1913-1996)

Cerflunydd Cymreig oedd Ivor Roberts-Jones (2 Tachwedd 1913 - 9 Rhagfyr 1996). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerflun yn Harlech yn darlunio Bendigeidfran a Gwern o chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi.

Ivor Roberts-Jones
Ganwyd2 Tachwedd 1913 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Worksop College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStatue of Winston Churchill Edit this on Wikidata
"Y Ddau Frenin": Bendigeidfran yn cario corff ei nai, Gwern. Cerflun ger Castell Harlech.

Ganed ef yng Nghroesoswallt, yn fab i gyfreithiwr. Astudiodd gelf yng ngholeg Goldsmith yn Llundain, yna i Ysgol Gerflunio'r Academi Frenhinol. Yn ddiweddarach, bu'n bennaeth Adran Gerflunio Coleg Goldsmiths o 1964 hyd 1978. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae cofeb i Augustus John yn Fordingbridge a chofeb Winston Churchill yn Llundain.

Comisiynwyd ef gan Adran Henebion y Swyddfa Gymreig i greu cerflun ger Castell Harlech i adlewyrchu chwedl Breanwen ferch Llŷr yn 1979, ac fe'i cwblhawyd yn 1983, gyda'r teitl |"Y Ddau Frenin". Mae'n darlunio Bendigeidfran ar gefn ceffyl, yn cario corff ei nai, Gwern.

Llyfryddiaeth golygu

  • Peter Cannon-Brookes Ivor Roberts-Jones: y daith i Harlech / The journey to Harlech (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1983) ISBN 0-86294-042-7