Iwan Bala

ysgrifennwr, arlunydd (1956- )

Arlunydd Cymraeg ydy Iwan Bala (ganed 13 Mai 1956, Sarnau, Bala[1]). Magwyd yng Ngwyddelwern, a mynychodd ysgolion y Sarnau, Gwyddelwern a'r Berwyn. Fe astudiodd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth[1] ond yn 1990 bu'n artist preswyl yn Oriel Genedlaethol Zimbabwe yn Harare, dychwelodd yno yn 1993 i gyflwyno rhaglen deledu ar y celfyddydau, Delweddau Zimbabwe.[2] Enillodd M.A. celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1993.[1][3]

Iwan Bala
Iwan Bala (chwith) gyda John Cale (2009)
Ganwyd13 Mai 1956 Edit this on Wikidata
Sarnau Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Edit this on Wikidata

Mae ei waith yn ymwneud â thirwedd diwylliant, cof a dychymyg.[2][4] Enillodd sawl gwobr gan gynnwys Medal Aur am Gelfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997, a Medal Owain Glyndŵr yn 1998, i gydnabod ei gyfraniad nodedig i'r celfyddydau yng Nghymru.[1][2][3]

B'n gweithio'n rhan amser dros Cywaith Cymru i geisio hybu'r celfyddydau yn y gymuned; mae nawr yn ddarlithydd celf yng Nholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn y Tabernacl, Machynlleth ac yn yr Amgueddfa Ymerodrol yn Llundain.[1][3]

Llyfryddiaeth golygu

  • Intimate Portraits, 1995 (Seren)
  • Welsh Art Goes International, 1996 (Planet)
  • Welsh Painters Talking, 1997 (Seren)
  • Appropriate Behaviour, 1997 (Planet)
  • Cyfres o draethodau a gomisiynwyd gan Planet, 1998
  • Darllen Delweddau, 2000 (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Certain Welsh Artists, 1999 (Seren)
  • here+now, 2004 (Seren)
  • Groundbreaking, 2005 (Seren)
  • Hon, Ynys y Galon, 2007 (Gwasg Gomer)

Dolenni Allanol golygu

Ffynonellau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.