Un o ynysoedd Japan yw Iwo Jima (hefyd Iwoto neu Iwo To) (硫黄島, Iōtō, gynt Iōjima). Mae'n un o Ynysoedd Bonin, a saif tua 1000 km i'r de o Tokyo, 1100 km i'r gogledd o Gwam a hanner y ffordd rhwng Tokyo a Saipan.

Iwo Jima
Mathvolcanic island Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlsylffwr Edit this on Wikidata
Poblogaeth400, 0 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolVolcano Islands Edit this on Wikidata
LleoliadY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
SirOgasawara Village Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd23.73 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr161 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.78°N 141.32°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Iwo Jima

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yr ynys o bwysigrwydd strategol oherwydd y meysydd awyr arni. Ym misoedd cyntaf 1945, glaniodd milwyr yr Unol Daleithiau ar yr ynys, gan ddechrau Brwydr Iwo Jima. Cipiwyd yr ynys gan yr Americanwyr wedi wythnosau o ymladd ffyrnig.

Dychwelwyd yr ynys i Japan yn 1968.