J. Beverley Smith

Hanesydd ac awdur o Gymro

Hanesydd o Gymru oedd yr Athro J. Beverley Smith (ganwyd 27 Medi 193119 Chwefror 2024).[1][2] Ei brif faes oedd hanes Cymru'r Oesoedd Canol yn Oes y Tywysogion.

J. Beverley Smith
GanwydJenkyn Beverley Smith Edit this on Wikidata
27 Medi 1931 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd yn enedigol o Orseinon, ac aeth i'r brifysgol yn Aberystwyth.

Wedi cyfnod yn y fyddin a chyfnod yn gweithio i Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru dychwelodd i Aberystwyth i weithio yn Adran Lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru yn Mhrifysgol Aberystwyth.[3]

Roedd yn awdur nifer o erthyglau dysgedig yn ogystal â'r gyfrol fawr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sy'n astudiaeth drylwyr o yrfa Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i gyfnod a'r unig fywgraffiad safonol o'r tywysog hwnnw.

Bu'n un o olygwyr Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd am gyfnod a bu'n o gyd-olygyddion Studia Celtica, un o'r prif gofnodolion astudiaethau Celtaidd, rhwng 1996 a 2010.

Bu'n gwasanaethu sawl corff cyhoeddus - roedd yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1974 a 1984, bu'n aelod o Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru am dros 40 mlynedd ac yn gadeirydd arno o 1985-91.

Bu hefyd yn gadeirydd Comiswn Brenhinol Henebion Cymru ac yn gadeirydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod â Llinos a ganwyd dau fab iddynt - Robert a Huw. Bu farw yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd ar 6 Mawrth 2024 yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth am 12.30pm.[3]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Smith Prof. (Jenkyn) Beverley", Who's Who (fersiwn arlein, Rhagfyr 2017). Retrieved 4 Mai 2018.
  2. "Click here to view the tribute page for Jenkyn Beverley SMITH". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-28.
  3. 3.0 3.1 "Teyrngedau i J Beverley Smith, hanesydd Llywelyn ein Llyw Olaf". BBC Cymru Fyw. 2024-02-21. Cyrchwyd 2024-02-21.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.