Jack Sargeant

gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad

Gwleidydd Llafur yw Jack Sargeant (ganwyd 1994). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2018. Fe'i etholwyd mewn is-etholiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2018 ac fe'o ail-etholwyd yn etholiad 2021. Mae'n fab i Carl Sargeant, Aelod Cynulliad blaenorol yr etholaeth a bu farw yn Nhachwedd 2017.[2]

Jack Sargeant
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Alun a Glannau Dyfrdwy
Deiliad
Cychwyn y swydd
7 Chwefror 2018[1]
Mwyafrif6,545 (35.3%)
Rhagflaenwyd ganCarl Sargeant
Manylion personol
Ganwyd1994 (29–30 oed)
Rhuddlan, Sir y Fflint
Plaid wleidyddolLlafur
Gwefanwww.jacksargeant.org

Magwyd Sargeant yn Nghei Connah ac aeth i Ysgol Gynradd Bryn Deva ac Ysgol Uwchardd Cei Connah. Gwnaeth prentisiaeth yng Ngholeg Deeside yn gweithio gyda busnes bach lleol, cyn astudio am radd peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam. [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jack Sargeant AS = Proffil Aelod". Senedd Cymru. Cyrchwyd 8 Chwefror 2018.
  2. Jack Sargeant yn dilyn ei dad i’r Cynulliad , Golwg360, 7 Chwefror 2018.
  3. Carl Sargeant's son bids to take his seat in the National Assembly (en) , WalesOnline, 10 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2018.

Dolenni allanol golygu