Arlunydd Americanaidd dylanwadol a phrif gymeriad yn y mudiad mynegiadol haniaethol oedd Paul Jackson Pollock (28 Ionawr 191211 Awst 1956). Adnabyddir am baentio arweithiol (Action Painting) y paent wedi'i daflu, arllwys, sblasio neu ddiferu dros gynfasau mawrion ar hyd y llawr.

Jackson Pollock
GanwydPaul Jackson Pollock Edit this on Wikidata
28 Ionawr 1912 Edit this on Wikidata
Cody, Wyoming Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1956 Edit this on Wikidata
East Hampton, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
  • Manual Arts High School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNo. 5, 1948, Autumn Rhythm (Number 30), Blue Poles Edit this on Wikidata
Arddullcelf haniaethol Edit this on Wikidata
MudiadMynegiadaeth Haniaethol, peintio gweithredol Edit this on Wikidata
PriodLee Krasner Edit this on Wikidata
llofnod

Bu'n dra enwog yn ystod ei fywyd, un o'r arlunwyr Americanaidd mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth. Gyda phersonoliaeth ymfflamychol, fe frwydrodd yn erbyn alcoholiaeth ar hyd ei fywyd. Roedd yn briod â'r darlunydd haniaethol cydnabyddedig Lee Krasner a fu'n ddylanwad mawr arno.[1]

Bu farw Pollock yn 44 oed mewn damwain car, yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.[2]

Techneg golygu

Ym 1936 fe gyflwynwyd Pollock i'r syniad o ddefnyddio paent hylif (liquid paint) mewn gweithdy peintio arbrofol yn Efrog Newydd gan y peintiwr murluniau Mecsicanaidd, David Alfaro Siqueiros. Yn ddiweddarach, ym 1940, fe ddefnyddiodd y dechneg o arllwys paent. Wedi iddo symud i bentref Springs i'r gogledd o Efrog Newydd, ym 1945, fe dorrodd gyda’r arferiad o gael y gynfas ar ei fyny gan orwedd y cynfas ar hyd y llawr ac yn taflu a sblasio'r baent i lawer, yn beth roedd yn ei alw yn drip painting.

Dechreuodd ddefnyddio paent synthetig a phaent tŷ, a oedd yn gyfryngau anarferol i arlunwyr celf gain y cyfnod.[3] Defnyddiodd brwshys caled, darnau o bren i ollwng y paent a hyd yn oed syrinjys i'w chwistrellu. Gyda'r technegau yma roedd yn gallu fod yn fwy rhydd yn ei symudiadau wrth lifo'r paent dros y gynfas.

Gan beintio yn y steil yma, symudodd Pollock i ffwrdd o geisio cyfleu'n ffigurol ac yn herio'r traddodiad gorllewinol o ddefnyddio brwsh yn erbyn cynfas ar stondin. Defnyddiodd i egni a chryfder ei gorff cyfan i beintio. Ym 1956 fe alwyd yn 'Jack the Dripper' gan gylchgrawn 'Time' [4]

My painting does not come from the easel. I prefer to tack the unstretched canvas to the hard wall or the floor. I need the resistance of a hard surface. On the floor I am more at ease. I feel nearer, more part of the painting, since this way I can walk around it, work from the four sides and literally be 'in' the painting.

Dylanwad posib ar Pollock oedd gwaith yr arlunydd Janet Sobel (1894–1968). Cafodd ei gwaith ei gynnwys gyda gwaith Pollock yn arddangosfa The Art of This Century Gallery, 1945 a drefnwyd gan y filiwnydd a chefnogwr celf Peggy Guggenheim.[5][6][7]

Ar ôl 1951 roedd y waith yn fwy dywyll, yn cynnwys casgliad a beintiwyd mewn ddu ar gynfas heb ei phreimio.[8]

Yn ystod y cyfnod yma newidiodd Pollock i oriel fwy masnachol i werthu ei waith. Roedd alwad mawr am ei waith gan gasglwyr, ond roedd y pwysau ychwanegol arno yn cynyddu ei straen a dibyniaeth ar alcohol.[9]

Yn ei ymdrech i symud yn bellach o ddisgwyliad y cyhoedd am elfennau ffigurol (copi neu debygrwydd gyda natur neu’r byd ‘go iawn’) fe ddechreuodd enwi ei gynfasau gyda rhifau yn dweud:

look passively and try to receive what the painting has to offer and not bring a subject matter or preconceived idea of what they are to be looking for.

Enwogrwydd golygu

 
Poster y ffilm ‘Pollock’, 2000

Yn 2000 gwnaethpwyd y ffilm Hollywood Pollock yn seiliedig ar llyfr bywgraffiadol Jackson Pollock: An American Saga, a enillodd y wobr Pulitzer. Roedd y ffilm yn brosiect Ed Harris a actiodd Pollock a fu'n gyfarwyddwr hefyd.[10]

Mae nifer o weithiau Pollock wedi'u gwerthu am symiau uchel iawn. Yn 2013 fe werthwyd ei gynfas Rhif 19, (1948) am $58,363,750.[11]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Naifeh, Steven W.; Smith, Gregory White (24 Rhagfyr 1989). Jackson Pollock: an American saga. C.N. Potter. ISBN 978-0-517-56084-6. Cyrchwyd 4 Mai 2013.
  2. http://www.biography.com/people/jackson-pollock-9443818
  3. Boddy-Evans, Marion. "What Paint Did Pollock Use?". about.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-09. Cyrchwyd 28 Medi 2007.
  4. "The Wild Ones". Time (cylchgrawn). 20 Chwefror 1956. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-06. Cyrchwyd 15 Medi 2008.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-12. Cyrchwyd 2014-09-16.
  6. "Mother of Invention | Picture This | Big Think". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-06. Cyrchwyd 2014-09-16.
  7. Karmel, Pepe (1999). Jackson Pollock: Interviews, Articles, and Reviews. In Conjunction with the Exhibition "Jackson Pollock" - The Museum of Modern Art, New York, November 1, 1998 to February 2, 1999. The Museum of Modern Art. t. 273. ISBN 978-0-87070-037-8. Cyrchwyd 4 Mai 2011.
  8. "Biography". Jackson-pollock.com. Cyrchwyd 28 Medi 2007.
  9. "Downfall of Pollock", Jackson Pollock website, adalwyd 23 Mehefin 2010.
  10. http://www.imdb.com/title/tt0183659/
  11. Vartanian, Hrag. "Historic Night at Christie's as 12 Post-War Artists Set Records, Biggest Sale in History". Hyperallergic. Cyrchwyd 18 Mai 2013.