Jacopone da Todi

cyfansoddwr a aned yn 1236

Brawd Ffransisgaidd o ardal Umbria yn yr Eidal yn y 13g oedd Jacopone da Todi (Todi, 1228Collazzone, 1306). Fe'i cofir fel ysgolhaig a bardd a gyfansoddodd sawl laud (cerddi mawl) yn Eidaleg; mae'n debygol mai ef a gyfansoddodd y delyneg Ladin adnabyddus Stabat Mater hefyd. Roedd yn ddramodydd arloesol yn ogystal, a luniodd sawl drama ar destunau ysgrythurol.

Jacopone da Todi
GanwydJacopo dei Benedetti Edit this on Wikidata
1236 Edit this on Wikidata
Todi Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1306 Edit this on Wikidata
Collazzone Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfrinydd, cyfansoddwr, clerigwr rheolaidd, ysgrifennwr, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl25 Rhagfyr Edit this on Wikidata

Ganwyd Jacopone yn nhref fechan Todi yn nugiaeth Spoleto. Troes yn fynach Ffransisgaidd yn 1268 gan ddod yn Frawd llëyg yn 1278. Cafodd ei garcharu o 1298 hyd 1303 am gyfansoddi dychan yn erbyn y Pab Boniffas VIII.

Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.