Roedd Jade Cerisa Lorraine Goody (5 Mehefin 1981[1]22 Mawrth 2009)[2] yn seren teledu realiti Prydeinig. Daeth i amlygrwydd yn 2002 pan ymddangosodd ar y rhaglen deledu realiti Big Brother ar Sianel 4; arweiniodd yr ymddangosiad hwn at gyfres deledu ei hun a lawnsiad o'i chynhyrchion ei hun.[3]

Jade Goody
Ganwyd5 Mehefin 1981 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 2009 Edit this on Wikidata
Upshire Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Bacon's College Edit this on Wikidata
Galwedigaethnyrs, hunangofiannydd, ysgrifennwr, cymdeithaswr, person busnes Edit this on Wikidata
MamJackiey Budden Edit this on Wikidata
PriodJack Tweed Edit this on Wikidata
PartnerJeff Brazier, Ryan Amoo Edit this on Wikidata

Yn Ionawr 2007, fe'i dewiswyd i fod ar y rhaglen Celebrity Big Brother. Tra'r oedd ar y sioe, fe'i chyhuddwyd o fwlio hiliol yn erbyn yr actores Indiaidd, Shilpa Shetty.[4] Yn ddiweddarach, cyfaddefodd Goody fod ei hymddygiad yn annerbyniol a gwnaeth nifer o ymddiheuriadau cyhoeddus.[5] Yn Awst 2008, ymddangosodd ar y fersiwn Indiaidd o Big Brother, Bigg Boss,[6] ond gadawodd y gyfres yn gynnar ar ôl iddi dderbyn y newyddion fod ganddi gancr ceg y groth a dychwelodd i'r DU.[7] Yn Chwefror 2009, dywedwyd wrth Goody fod y cancr yn derfynol ar ôl iddo fetastaseiddio [8][9] Priododd ei chariad Jack Tweed ar yr 22ain o Chwefror 2009.[10]

Ei Gyrfa golygu

Big Brother 3 golygu

Pan ymddangosodd Goody ar Big Brother 3 daeth yn destun gwawd i bapurau tabloid y Deyrnas Unedig am arddangos diffyg gwybodaeth gyffredinol. Credai Goody fod Caergrawnt yn Llundain. Pan esboniwyd iddi fod Caergrawnt yn Nwyrain Anglia, credodd Goody fod hyn mewn gwlad dramor a pharhaodd i gyfeirio ato fel "East Angular". Cafodd ei beirniadu hefyd gan y wasg tabloid am noson yn nhy'r Brawd Mawr pan bu'n meddwi ac yn diosg ei dillad. Fe'i cyhuddwyd hefyd o fod yn ddau-wynebog. Llwyddodd i osgoi cael ei phleidleisio allan o dŷ Big Brother am ddigon o amser i'r Wasg newid eu barn ohoni a dechreuodd dderbyn eu cefnogaeth. Credir hefyd mai Goody oedd yr cystadleuydd cyntaf yn Big Brother y DU i gael cyswllt rhywiol gyda pherson arall a oedd yn byw yn y tŷ, sef PJ, er ei fod yn aneglur pa weithredoedd rhywiol (os o gwbl) a ddigwyddodd.

Y Cyfnod rhwng BB3 a CBB golygu

Cyflwynodd Goody ei rhaglenni teledu realiti ei hun ac ymddangosodd yn rheolaidd mewn cylchgronau enwogion a chlecs megis heat ac OK!. Cytunodd Goody i redeg Marathon Llundain yn 2006. Ni orffennodd y cwrs, gan gwympo ar ôl 34 km (21 milltir) o'r cwrs 42.195 km (26.2 miles). Aethpwyd a hi i Ysbyty Frenhinol Llundain a chadwyd hi yno dros nos. Cyn y ras, soniodd Goody am ei pharatoadau i'r cogydd Gordon Ramsay, gan ddweud "I've been eating curry, Chinese a drinking." Yn ddiweddarach, esboniodd:

"I don't really understand miles. I didn't actually know how far it was going to be. I'll be honest, I didn't take it seriously which is really bad of me because there's people out there who actually want to do the marathon. I didn't realise how much commitment the marathon was. I had four training sessions, that's all I did. At most I could run half an hour on a treadmill." ."[11]

Cododd Goody dros £550 i elusen yr NSPCC.[12]

Ar 2 Mai 2006, cyhoeddodd Goody ei hunangofiant o'r enw Jade: My Autobiography [13] ac ym mis Mehefin, lawnsiodd ei phersawr Shh . . . Jade Goody.[14] Cafodd ei lawnsio gan y siop Superdrug yn Haf 2005 a daeth yn y trydydd persawr mwyaf poblogaidd o ran gwerthiant tu ôl persawr Kylie Minogue a Victoria Beckham. Fodd bynnag, yn sgîl cyhuddiadau o hiliaeth, penderfynodd The Perfume Shop i dynnu'r persawr o'u silffoedd. Ers hynny fodd bynnag, mae The Perfume Shop wedi ail-ddechrau ei werthu a roedd yn un o'r pum persawr a werthodd fwyaf yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig yn 2007.[15]

Tan mis Tachwedd 2006, arferai Goody gyfrannu i golofn wythnosol yng nghylchgrawn Now.[16] Yn ei cholofn yn Ebrill 2006, cyfaddefodd Goody fod gan batrwm siec nova Burberry fel tatŵ ar foch chwith ei phen-ôl .[17]

Celebrity Big Brother golygu

Ychydig cyn mynd i mewn i dŷ Big Brother, rhoddodd cylchrawn heat Goody fel rhif 25 o bobl mwyaf dylanwadol y byd.[18] Dywedwyd bod ei henillion rhwng £2 miliwn ac £8 miliwn bryd hynny.[19][20] Ar 5 Ionawr 2007, aeth Jackie Budden, mam Goody, a'i chariad Jack Tweed i mewn i dŷ Big Brother ar gyfer cyfres newydd o Celebrity Big Brother. Tra yno, hysbyswyd Goody y byddai hi a'i theulu yn aros ym moethusrwydd y prif dŷ, tra byddai gweddill yr enwogion yn gweithio fel gweision a morynion iddynt ac yn byw yn y tŷ drws nesaf. Ni ddywedwyd wrth Goody y byddai hi neu aelod o'i theulu yn cael eu hel o'r tŷ wrth i'r cyhoedd benderfynu pwy fyddai'n cael aros. O ganlyniad, cafodd Jackie y nifer lleiaf o bleidleisiau a chafodd ei hel o'r tŷ ar 10 Ionawr 2007.

Cyhuddwyd Goody o wneud sylwadau hiliol am, a sylwadau sarhaus wrth Shilpa Shetty ac arweiniodd hyn at y pwnc dadleuol o hiliaeth yn Celebrity Big Brother. Dywedwyd fod Goody'n rhagrithiol o ystyried ei bod yn cefnogi elusen gwrth-fwlio.[21] Cafodd Ofcom sy'n rheoli darlledu yng ngwledydd Prydain gwynion am ymddygiad Jo O'Meara, Danielle Lloyd a Goody tuag at Shetty.[22] Erbyn 20 Ionawr, roedd Ofcom wedi derbyn tua 40,00 o gwynion wrth aelodau'r cyhoedd,[23] tra bod Sianel 4 wedi derbyn 3,000 o gwynion hefyd.[24]

Roedd y sylwadau canlynol ymysg yr hyn a ddywedodd Goody: "I've seen how she goes in and out of people's arseholes", yn ogystal ag awgrymu fod Shetty "makes [her] skin crawl".[24] Cyfeiriodd at Shetty hefyd fel 'Shilpa fuckawhiler' a 'Shilpa Poppadom'. Dywedodd Goody yn ddiweddarach: "She is Indian, thinking of an Indian name and only thing I could think of was Indian food. Wasn't racial at all. It was not to offend any Indian out there."[25] Pan yn trafod y gwrthdaro hyn, dywedodd Cleo Rocos wrth Shetty: "I don't think there's anything racist in it." Atebodd Shetty: "It is, I'm telling you."[26] Fodd bynnag, newidiodd Shetty ei barn yn hwyrach gan ddatgan "I don't feel there was any racial discrimination happening from Jade's end... I think that there are a lot of insecurities from her end but it's definitely not racial,".[27] Arweiniodd y digwyddiad at drafodaethau rhyngwladol, wrth i'r stori ymddangos yn helaeth yng nghyfryngau'r India. Condemniodd Gordon Brown, Canghellor y Trysorlys ar y pryd, y rhaglen pan oedd ar daith o amgylch yr India gan ddweud ei fod yn erbyn unrhyw beth a oedd yn pardduo'r ddelwedd o Brydain fel gwlad goddefgar.[28] Mewn datganiad ar yr 17eg o Ionawr, amddifynnodd Sianel 4 y rhaglen yn erbyn y cyhuddiadau o hiliaeth neu gamdrin hiliol. Danfonwyd Goody allan o dŷ Big Brother ar 19 Ionawr 2007, pan dderbyniodd 82% o'r bleidlais cyhoeddus o'i gymharu â'r 18% a gafodd Shilpa Shetty.[29]

Ar 19 Ionawr, gadawodd Goody y tŷ Big Brother. Gwaharddwyd y dorf arferol o du allan y tŷ a chanslwyd cynhadledd y wasg gyda hi. Mewn cyfweliad gyda Davina McCall yn syth ar ôl iddi adael, dywedodd Goody ei bod yn "disgusted with [her]self" ar ôl iddi wylio fideo o'r bwlio honedig.[30] Dywedodd y swyddog cyhoeddusrwydd Max Clifford fod ei phenderfyniad i fynd yn ôl i mewn i dŷ Big Brother yn benderfyniad ofnadwy, gan ddweud "it looks like she has ruined a very lucrative career".[31]

Yn y pen draw, derbyniodd Sianel 4 gerrydd gan Ofcom am y modd y deliwyd gyda'r mater a arweiniodd at ryw 54,000 o gwynion.[32] Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod achosion eraill o hiliaeth honedig na chafodd eu darlledu.[33] Roedd yr achosion yma'n cynnwys "gêm limerig" yn hwyr yn y nos rhwng O'Meara, Lloyd, Goody a'i chariad Jack Tweed lle awgrymwyd y defnydd o'r gair "Paki" er na ddefnyddiwyd y gair. Mewn achosion eraill, trafododd Goody a oedd Lloyd wedi defnyddio "the p-word" a chyfeiriodd Goody at yr actores Bollywood fel "Shilpa Pashwa whoever you fucking are".[33]

Ei Bywyd Personol golygu

Ei Rhieni golygu

Roedd ei thad, Andrew Robert Goody (Chwefror 1963 – Awst 2005), yn gaeth i gyffuriau ac yn droseddwr parhaus, a dreuliodd gyfnodau yn y carchar gan gynnwys pedair blynedd am ladrata. Bu farw o or-ddôs o gyffuriau yn Bournemouth, pan oedd yn 42 oed. Ganwyd ei mam, Jackiey Budden, yn Ebrill 1958.

Perthynasau, Plant a Phriodas golygu

Cafodd Goody berthynas gyda'r cyflwynydd teledu Jeff Brazier sy'n dad i'w dau phlentyn. Cawsant eu geni yn Harlow, Essex: Bobby Jack Brazier, ganed ar 6 Mehefin 2003, a Freddie Brazier, ganed ym Medi 2004. Yn 2005, cafodd Goody berthynas chwe mis gyda'r pêl-droediwr Ryan Amoo; buont yn cyd-fyw yn ei thŷ.

Yn ddiweddarach, cafodd berthynas gyda Jack Tweed, ac ymddangosodd gydag ef yn Celebrity Big Brother. Ym Mehefin 2007, collodd Goody blentyn yn oedd yn disgwyl, yn ystod y berthynas. Yn dilyn nifer o honiadau am anffyddlon Tweedy daeth perthynas y ddau i ben. Dywedodd Goody am eu perthynas "Some days, I felt more like his mum than his lover ... I’ll never date a toy boy again.". Fodd bynnag, dechreuodd y ddau ganlyn unwaith eto. Ar 15 Ionawr 2009, cyfnewidiodd y ddau fodrwyon mewn seremoni preifat anffurfiol ar lannau'r Afon Tafwys. Priododd Tweed a Goody ar ddydd Sul 22 Chwefror yn Down Hall ger Hatfield Heath. Arwyddodd y ddau gytundeb gwerth £700,000 gyda chylchgrawn OK! am luniau o'r seremoni. Mae Goody hefyd yn bwriadu bedyddio ei meibion.

Cancr golygu

Cafodd Goody brofion am gancr ceg y groth yn 2004 a chancr y goloddyn yn 2006 ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw arwyddion o gancr.[34] Cafodd mwy o brofion yn Awst 2008 ar ôl iddi gwympo ar bedair achlysur wahanol. Dangosodd ganlyniadau profion fod ganddi gancr ceg y groth; derbyniodd Goody'r wybodaeth tra'n ymddangos ar fersiwn yr India o Big Brother, Bigg Boss.[35] Dywedodd llefarydd ar ei rhan, "It looks like her cancer is at an early stage but we will have to wait until she gets back to Britain and sees a specialist and has more tests".[36]

Ar 1 Medi 2008, dywedwyd fod cancr Good wedi datblygu a'i fod yn peryglu'i bywyd ac y byddai hi'n cael llawdriniaeth ac yna cemotherapi. Rhybuddiodd y doctoriaid fod ei siawns o oroesi cyn lleied a 65%. Gwnaed profion pellach, cafodd hysteroctomy eithafol a dechreuodd Goody gwrs o gemotherapi a radiotherapi.

Mewn cyfweliad gyda'r cwmni darlledu Gwyddelig RTÉ cyfaddefodd Goody ei bod wedi dechrau trefnu ei hangladd. Dywedodd hefyd ei bod yn colli ei gwallt a'i bod wedi penderfynu peidio esbonio'i salwch wrth ei plant.

Ar 4 Chwefror 2009, cadarnhaodd Max Clifford, swyddog cyhoeddusrwydd Goody fod ei chancr wedi ymledu i'w afu, coluddyn a'i harffed. O ganlyniad, dechreuodd ar driniaeth a fyddai'n ymestyn hyd ei bywyd. Ar 7 Chwefror, dywedodd Clifford fod Good wedi derbyn llawdriniaeth brys yn Llundain er mwyn gwaredu tyfiant o'i choluddyn.

Marwolaeth golygu

Bu farw Goody yn ei chwsg am 3.14 y.b ar 22 Mawrth 2009. Roedd ei mam Jackiey Budden, ei gŵr Jack Tweed, a ffrind y teulu Kevin Adams wrth ochor y gwely pan bu farw. Cynhaliwyd ei hangladd ar 4 Ebrill 2009 yn Eglwys Sant Ioan, yn Buckhurst Hill, Essex. Aeth yr orymdaith angladdol drwy Bermondsey, de Llundain.[37]

DVD Ffitrwydd golygu

  • Jade's All new diet gan Jade Goody a Steve Kemsley (DVD - 2003)
  • Jade's Shape Challenge gan Jade Goody (DVD - 2006)

Yn ôl y Daily Mail, gwawdiwyd Jade's Shape Challenge pan ddaeth i'r amlwg fod Goody wedi talu £4,500 am liposuction mewn clinig preifat.[38]

  • Jade's Workout/'Workout with Helen'/The "Girls" o Big Brother - gan Jade Goody a Helen Adams (DVD - 2004)
  • Jade (2002) gan Jade Goody a Steve Kemsley (DVD - 2004)
  • The Big BrotherCollection : Jade's Dance Workout/ Dance Workout with Helen Adams and Latino Dance Workout with Nadia (2002) gan Jade Goody, Helen Adams, a Nadia Almada (DVD - 2005)

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The education of Jade Goody" Sunder Katwala, guardian.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  2. Reality TV star Jade Goody dies after cancer fight The Associated Press. Adalwyd 22-03-2009
  3. "How Jade made the grade" Daily Mail Adalwyd 28-01-2009
  4. "Jade evicted as poll reveals public anger with Channel 4" The Guardian. Adalwyd 28-02-2009
  5. Erthygl BBC News 20-01-2007 Adalwyd 28-02-2009
  6. Jade Goody to join Indian Big Brother guardian.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  7. Jade Goody diagnosed with cancer independent.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  8. Big Brother star to wed after terminal cancer confirmed Gwefan CNN Adalwyd 28-02-2009
  9. Jade Goody wedding may be televised, hints Max Clifford guardian.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  10. Jade Goody gets married amid tears, cheers and a £700,000 OK! magazine deal timesonline.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  11. Jade Goody admits marathon confusion Archifwyd 2009-03-27 yn y Peiriant Wayback. Digital Spy. Adalwyd 28-02-2009
  12. NSPCC
  13. "Disgraced Goody's autobiography axed" Dailymail.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  14. "Still Controversial: Reality TV Star Jade Goody Launches New Perfume" Archifwyd 2009-03-01 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 28-02-2009
  15. Perfume Shop re-selling Shh... http://www.theperfumeshop.com/main/browse/index.cfm?fsa=dspProducts&brand_id=779 Archifwyd 2007-10-12 yn y Peiriant Wayback.
  16. http://www.ananova.com/entertainment/story/sm_1747273.html?menu=entertainment.celebrities[dolen marw]
  17. "Why self-made Jade deserves admiration". Rachel Moore[dolen marw] Adalwyd 28-02-2009
  18. The education of Jade Goody guardian.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  19. How Jade made the grade dailymail.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  20. Jade Goody's career may be over dailymail.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  21. Bullying charity drops Jade Goody Gwefan rhaglen deledu Newsround ar y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  22. Anger over Big Brother 'racism' Gwefan Newyddion y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  23. I'm not racist, says TV's Goody Gwefan y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  24. 24.0 24.1 Jade Goody Biography Gwefan monstersandcritics.com Adalwyd 28-02-2009
  25. Celeb BB: Jade calls housemate 'Shilpa Poppadom' Gwefan manchestereveningnews.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  26. Big Brother controversy in quotes Gwefan y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  27. Big Brother sponsor suspends deal Gwefan Newyddion y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  28. Shetty speaks of Brother 'racism' Gwefan y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  29. Jade 'faces fight to save career' Gwefan y BBC. Adalwyd 28-02-2009
  30. [Celebrity Big Brother Live, 2007-01-19 ar Sianel 4]
  31. Datganiad Max Clifford
  32. Jade Goody is surrounded by security as she arrives in Mumbai to appear on India's Big Brother dailymail.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  33. 33.0 33.1 C4 to air Big Brother racism apologies guardian.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  34. Jade's tears at cancer news Archifwyd 2016-01-24 yn y Peiriant Wayback. The Sun Adalwyd 28-02-2009
  35. Lean on me: Jade's ex Jack takes her to Harley Street doctors as she prepares for cancer battle dailymail.co.uk Adalwyd 28-02-2009
  36. Erthygl Dail Mail Adalwyd 28-02-2009
  37. (Saesneg)Thousands watch Goody's funeral BCC Adalwyd 05-04-2009
  38. Jade Goody's career may be over Daily Mail. Adalwyd 28-02-2009