Chwaraewr taekwondo Cymreig yw Jade Louise Jones MBE (ganwyd 21 Mawrth 1993). Cafodd ei geni yn Bodelwyddan. Enillodd Jones y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, y tro cyntaf erioed i Brydain ennill medal aur yn y gamp[2] a llwyddodd i amddiffyn ei choron wrth gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro[3].

Jade Jones
Jones (glas) yng Ngemau Olympaidd 2012
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJade Louise Jones
Ganwyd (1993-03-21) 21 Mawrth 1993 (31 oed)
Bodelwyddan, Cymru[1]
Taldra1.7 m (5 ft 7 in) (5 ft 7 in)
Pwysau57 kg (126 lb)
Camp
Gwlad Y Deyrnas Unedig
ChwaraeonTaekwondo
Camp –57 kg
Diweddarwyd 20 Mai 2019.

Daeth yn bencampwraig tae kwondo y byd yn Mai 2019 drwy gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd a gynhaliwyd ym Manceinion.[4]

Cafodd ei henwi'm Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn yn 2012[5]. Enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo yng Ngemau Olympaidd 2016 hefyd. Yng Ngemau Olympaidd 2020, collodd ei phwl agoriadol.[6]


Gyrfa taekwondo golygu

Ganed Jones yn Bodelwyddan, Sir Ddinbych,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Y fflint cyn gadael er mwyn dod yn chwaraewrwaig taekwondo proffesiynol[7]. Mae Jones yn rhan o Academi Taekwondo GB sydd wedi ei leoli ym Manceinion.

Yn 2010 casglodd Jones fedal efydd ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop yn Saint Petersburg, Rwsia.[8] a chafodd ei dewis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Iau cyntaf yn Singapôr yn 2010 lle llwyddodd i ennill y fedal aur wrth drechu Thanh Thao Nguyen o Fietnam yn y rownd derfynol[9][10]. Cafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru yn 2010[11].

Llwyddodd Jones i ennill un o brif bencampwriaethau'r byd taekwondo wrth ennill Pencampwriaeth Agored America yn 2011 yn Austin, Texas in February 2011. Cipiodd y fedal aur yn y −62 kg diwrnod ar ôl ennill efydd yn yr adran −57 kg [12]. Casglodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd yn Gyeongju, De Corea yn 2011yn yr adran pwysau plu[13].

Cafodd Jones ei dewis fel aelod o dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain gan ddod y Prydeinwraig cyntaf erioed i ennill medal aur taekwondo a'r person ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal wrth iddi drechu Hou Yuzhuo o Tsieina yn y rownd derfynol[14].

Llwyddodd Jones i ennill Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion yn 2015[15] wrth adeiladu tuag at Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.

Yn wahanol i Llundain 2012 lle roedd buddugoliaeth Jones yn annisgwyl, roedd y Gymraes yn un o'r ffefrynau ar gyfer Rio de Janeiro 2016[16] a llwyddodd i drechu Eva Calvo o Sbaen 16-7 er mwyn amddiffyn ei medal aur[3][16].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Jade Jones: Taekwondo gold medal joy for Olympian". BBC News Wales. 10 Awst 2012.
  2. "About Jade". GB Taekwondo.
  3. 3.0 3.1 "Gemau Olympaidd Rio: Aur i Jade Jones yn y Taekwondo". BBC Cymru Fyw. 19 Awst. Check date values in: |date= (help)
  4. Jade Jones yn bencampwr byd… “o’r diwedd” , Golwg360. Cyrchwyd ar 20 Mai 2019.
  5. "Welsh Sports Personality of the Year 2012: Jade Jones triumphs". BBCSport. 10 Rhagfyr 2012.
  6. "Jones stunned in first round in Tokyo". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-25.
  7. "Teenage kicks! Ecstatic Jade Jones takes Britain's first ever Taekwondo gold". www.standard.co.uk. 9 Awst 2012.
  8. Griffiths, Gareth (4 Mehefin 2012). "Jade Jones going for gold medal at 2012 Olympics". Wales Online.
  9. "Jade Jones wins Britain's first Youth Olympics gold". BBC Sport. 17 Awst 2010.
  10. Williams, Bob (23 December 2010). "Jade Jones named British Olympic Association taekwondo athlete of the year". The Telegraph. Cyrchwyd 16 July 2012.
  11. Williams, Bob (7 Rhagfyr 2010). "Jade Jones wins BBC Cymru Wales Junior Sportswoman of the Year 2010". The Telegraph.
  12. Hope, Nick (21 Chwefror 2011). "Youth Olympian Jade Jones claims first senior title". BBC Sport.
  13. Hope, Nick (4 Mai 2011). "Jade Jones wins World Championship silver medal". BBC Sport.
  14. "Jade Jones wins Olympic taekwondo gold for Great Britain". BBC Sport. 9 Awst 2012.
  15. "GB's Jade Jones wins gold at World Taekwondo Grand Prix". BBC Sport. 27 Hydref 2015.
  16. 16.0 16.1 "Jade Jones wins Taekwondo gold medal at Rio Olympics 2016 as GB star recreates London triumph". The Telegraph. 19 Awst 2016.

Gweler hefyd golygu