James Graham, Ardalydd 1af Montrose

Uchelwr a chadfridog Albanaidd oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose (Hydref 161221 Mai 1650).[1]

James Graham, Ardalydd 1af Montrose
Ganwyd25 Hydref 1612 Edit this on Wikidata
Montrose Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1650 Edit this on Wikidata
mercat cross Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Alban, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol St Andrews Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, swyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Parliament of Scotland Edit this on Wikidata
TadJohn Graham, 4th Earl of Montrose Edit this on Wikidata
MamMary Rutwenn Edit this on Wikidata
PriodMagdalene Carnegie Edit this on Wikidata
PlantJohn Graham, Earl of Kincardine, James Graham, 2nd Marquess of Montrose Edit this on Wikidata
LlinachClan Graham Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Roedd James Graham yn fab i John Graham, 4ydd Iarll Montrose ac yn bennaeth Clan Graham. Daeth yn 5ed Iarll Montrose pan fu farw ei dad yn 1626. Yn 1638, wedi i'r brenin Siarl I geisio gorfodi'r Albanwyr i ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Anglicanaidd, bu gwrthwynebiad a arweniodd ar Ryfel yr Esgobion. Cefnogodd Montrose y gwrthwynebiad, ac arwyddodd y Cyfamod Cenedlaethol.

O 1639 ymlaen, y Cyfamodwyr oedd mewn grym yn yr Alban, ond nid oedd Montrose yn cyd-fynd a phlaid y Presbyteriaid dan Archibald Campbell, Ardalydd 1af Argyll, a dechreuodd gefnogi'r brenin. Yn ystod Rhyfel Cartref yr Alban yn 1644 a 1645, Montrose oedd prif gadfridog plaid y brenin. Cododd fyddin o Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth 2,000 o filwyr o Iwerddon dan Alasdair MacColla dechreuodd ar ymgyrch a ddangosodd ei dalent eithriadol fel cadfridog. Enillodd fuddugoliaethau, yn aml dros fyddinoedd llawer mwy na'i fyddin ei hun, ym mrwydrau Tippermuir, Inverlochy, Auldearn, Alford a Kilsyth.

Yn dilyn Brwydr Kilsyth roedd Montrose yn feistr ar yr Alban i bob golwg, ond aeth llawer o'r Ucheldirwyr adref gyda'u hysbail. Ar 12 Medi, daeth David Leslie ar draws Montrose gyda byddin fechan, a'i orchfygu ym Mrwydr Philiphaugh. Bu raid i Montrose ddianc i Norwy.

Ym Mawrth 1650 dychwelodd Montrose i'r Alban i ymladd dros Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban. Ni chafodd lawer o gefnogaeth, ac ar 27 Ebrill gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale. Cymrewyd ef yn garcharor yn fuan wedyn, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin ar 21 Mai.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ronald Williams (1975). Montrose: Cavalier in Mourning (yn Saesneg). Barrie & Jenkins. t. 5. ISBN 978-0-214-20087-8.
  2. Susan Ross (1973). The Castles of Scotland (yn Saesneg). G. Philip. t. 21. ISBN 978-0-540-07051-0.