James Trainer

chwaraewr pêl droed

Pêl-droediwr o Gymru oedd James Trainer (7 Ionawr 1863 - 5 Awst 1915).[2]

James Trainer
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJames Trainer
Dyddiad geni(1863-01-07)7 Ionawr 1863
Man geniWrecsam, Cymru
Dyddiad marw5 Awst 1915(1915-08-05) (52 oed)
Man lle bu farwPaddington, Lloegr
Taldra5'11" [1]
SafleGolgeidwad
Gyrfa Ieuenctid
Penybryn Wanderers
Challenger BC
1876–1878Wrexham Victoria
1878–1881Wrexham Grosvenor
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1881–1883C.P.D. Wrecsam
1883–1885Great Lever
1885–1887Bolton Wanderers
1887–1899Preston North End253(0)
Tîm Cenedlaethol
1887–1899Cymru20(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cefndir golygu

Ganwyd Trainer yn Wrecsam yn blentyn i James Trainer, pobydd, a Mary Ann ei wraig. Wedi ei addysgu yn ysgolion elfennol lleol cafodd ei brentisio i fod yn adeiladwr coetsis.

Gyrfa pêl-droed golygu

Dechreuodd Trainer i chware pêl-droed tra yn yr ysgol. Bu'n chware i dimau ieuenctid Penybryn Wanderers, Clwb Bechgyn Challenger, a Wrexham Grosvenor. Ym 1879 unodd Wrexham Grosvenor a thîm C.P.D Wrecsam a bu Trainer a dechreuodd chware i'w tîm ieuenctid hwy. Roedd yn chware yng nghanol y cae i'r timoedd ieuenctid ond cafodd cynnig i chware i'r tîm hŷn pe bai yn hyfforddi i fod yn gôl-geidwad. Dechreuodd chware yn y gôl i dîm hŷn Wrecsam yn nhymor 1881 - 82. Diolch, yn rhannol i'w allu fel gôl-geidwad llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cymru yn ystod ei ail dymor gyda'r clwb trwy drechu tîm y derwyddon yn y ffeinal.[1]. Ymadawodd a Wrecsam ym 1883 wedi anghydfod yn dilyn gornest Cwpan Lloegr arbennig o arw yn erbyn Croesoswallt ym mis Rhagfyr 1883.[3] Honnwyd iddo sarhau’r dyfarnwr a gwaharddodd Wrecsam o’r gystadleuaeth ac adrodd am drosedd Trainer i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Symudodd i Great Leaver yn Swydd Caerhirfryn (Manceinion Fwyaf, bellach) i ail afael ar ei waith fel adeiladwr coetsis, ond yn fuan dechreuodd chwarae i'r clwb lleol Great Lever F.C. Ym 1884 ymunodd a thîm Bolton Wanderers. Ym 1887 symudodd i chware i dîm Preston North End.[4] Yn ystod ei dymor cyntaf gyda Preston daeth y tîm yn ail yng nghystadleuaeth Cwpan Lloegr a'r flwyddyn ganlynol cipiodd yr ochr y cwpan. Ffurfiwyd Cynghrair Lloegr ym 1888, a Preston North End, gyda chymorth Trainer yn y gôl, daeth yn bencampwyr cyntaf y Gynghrair. Rhwng 1888 a 1897 chwaraeodd Trainer mewn 253 gêm i Preston.[5] Yn ystod ei gyfnod gyda Preston roedd yn cael ei ystyried i fod y gôl-geidwad gorau yn Lloegr, a derbyniodd y llysenw The Prince of Goal-keepers gan y wasg Seisnig.[6]

Dewiswyd Trainer i chware ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban ym 1887 a chwaraeodd 20 gwaith dros ei wlad rhwng 1887 a 1899 chwe gwaith yn erbyn Lloegr, naw gwaith yn erbyn Yr Alban, a phum gwaith yn erbyn Iwerddon.[7]

Rhoddodd gorau i chwarae pêl-droed ym 1899 ac aeth i gadw gwesty yn Preston. O 1899 hyd 1905 bu'n aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Preston. Ym 1905 cafodd gynnig i fod yn drefnydd gornest pêl-droed dan do yn Olympia Llundain. Gan fod Cymdeithas pêl-droed Lloegr wedi gwrthod caniatáu gemau dan do bu'n rhaid iddo ymddiswyddo fel cyfarwyddwr Preston. Methiant bu'r fenter a chollodd Trainer y cyfan o'i arian.[8]

Teulu golygu

Priododd Alice Lee, merch Anthony Lee, cigydd, Great Leaver, Swydd Caerhirfryn ar 29 Mawrth 1866. Cawsant deg o blant. Bu'r briodas yn un cythryblus, roedd Trainer yn amau bod ei wraig yn cael perthynas a dyn arall ac er mwyn ceisio ei dal arferai gwisgo mwstas ffug i'w dilyn o amgylch y lle. Bygythiodd ei ysgaru, ond penderfynodd beidio ar ôl i'r ddau cymodi. Ym 1905 cafodd Trainer plismon i droi ei wraig allan o'u tŷ ac fe wnaeth hi ymateb trwy ei erlyn ef am ei adael yn amddifad.[9]

Marwolaeth golygu

Wedi methiant y fenter pêl-droed yn Olimpia arhosodd Trainer yn Llundain, heb ei deulu, a bu farw yno mewn tlodi enbyd ym 1915 yn 52 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "IWALESVIRELAND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1894-02-26. Cyrchwyd 2020-10-08.
  2. James Trainer - Y Bywgraffiadur Cymreig
  3. "IFootballr - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1883-04-28. Cyrchwyd 2020-10-09.
  4. "WelshFootballers - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1903-01-29. Cyrchwyd 2020-10-08.
  5. Hayes, Dean (2006). The Who's Who of Preston North End. Breedon Books. tud. 234–235. ISBN 1 85983 516 3.
  6. "IRELAND v WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1894-02-24. Cyrchwyd 2020-10-08.
  7. "James Trainer". Spartacus Educational. Cyrchwyd 2020-10-09.
  8. "WELSH INTERNATIONAL GOAL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-11-29. Cyrchwyd 2020-10-08.
  9. "Welsh International DISAGREEMENTS WITH HIS WIFE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-01-10. Cyrchwyd 2020-10-08.