Uchelwr a gwleidydd Pwylaidd oedd Jan Sariusz Zamoyski (19 Mawrth 15423 Mehefin 1605) a fu'n Ganghellor y Goron Bwylaidd o 1578 hyd at ei farwolaeth ac yn Hetman Mawr y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd o 1581 hyd at ei farwolaeth.

Jan Zamoyski
Portread o Jan Zamoyski gan arlunydd anhysbys.
Ganwyd19 Mawrth 1542 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1605 Edit this on Wikidata
Zamość Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris Edit this on Wikidata
SwyddChancellor of Poland, great crown hetman, Vice-Chancellor of the Crown Edit this on Wikidata
PriodKrystyna Radziwiłł, Gryzelda Bathory, Barbara Tarnowska Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Ganed yn Skokówka, heddiw yn foifodiaeth Lublin. Pan yn 12 oed, anfonwyd ef i Brifysgol Paris. Ei hoff efrydiau pan yno oedd mathemateg, athroniaeth, a chyfreitheg. Symudodd i Strasbwrg i ymberffeithio yn yr iaith Roeg, ac aeth oddi yno i Padova i astudio chwaneg ar y gyfraith. Talodd lawer o sylw hefyd i ysgrifeniadau y Tadau Cristnogol, yr hyn, o bosibl, a gadarnhaodd ei ffydd yn yr Eglwys Gatholig. Tra yn Padova, cyhoeddodd amryw weithiau llenyddol. Daeth yn ôl i'w wlad ei hun, ym 1565, â'i gymeriad llenyddol yn uchel. Gosododd y brenin, Zygmunt II August, ef dan gyfarwyddyd y canghellor, mewn trefn iddo gael ei addysgu yn nygiad ymlaen fanylion y gorchwylion cyhoeddus. Ym 1569, penodwyd ef i archwilio ysgrifeniadau y cofnodion gwladwriaethol. Aeth hyn â'i holl amser ym mron am yn agos i dair blynedd; ond bu y nodiadau a wnaeth y pryd hwnnw o wasanaeth mawr iddo yn ei fywyd cyhoeddus.

Gyrfa wleidyddol golygu

Yn sgil marwolaeth y Brenin Zygmunt ym 1572 y dechreuodd bywyd gwleidyddol Zamoyski mewn ystyr manwl, a pharhaodd dros 30 mlynedd, a fe'i cydnabuwyd yn un o hoff arweinwyr y bendefigaeth, y szlachta, yn y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd newydd. Yn nechrau 1573 y galwyd y llwyrwys cyffredinol ynghyd i ethol brenin. Yn y cyfamser, yr oedd yr urdd farchogol wedi ymdrefnu er ceisio gwrthweithio dylanwad y senedd, trwy ymuno â'i gilydd. Trwy gydsyniad cyffredinol, Zamoyski a ystyrid yn arweinydd y cynghreirwyr hyn, a thrwy ei ddylanwad ef, disgynodd dewisiad y llwyrwys ar Henri o Anjou, ac yr oedd cryn bwysau yn ei resymau dros hyn. Penododd y brenin newydd Zamoyski yn brif ystafellydd. Amlygwyd anfodlonrwydd mawr oherwydd gwaith Henri yn gomedd llawnodi y cyfamod a gyflwynwyd iddo gan y rhai a'i gwrthwynebent cyn ei goroniad, a siglwyd poblogrwydd Zamoyski am beth amser gyda'i urdd am ei waith ym amddiffyn Henri ar yr achlysur hwn. Adfeddiannodd ei boblogrwydd, fodd bynnag, ar ymadawiad annisgwyliadwy Henri o Wlad Pwyl, ychydig fisoedd wedi ei goroni yn Kraków ym 1574. Peidiodd Henri ddychwelyd erbyn Mai 1575, a chyhoeddwyd fod yr orsedd yn wag.

Trodd Zamoyski a'i gyfeillion eu golwg yn awr at Báthory István (Stefan Batory) fel yr unig ymgeisydd am yr orsedd oedd yn debyg o fantoli dylanwad y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Galwyd y llwyrwys ynghyd yn Ionawr 1576. Cyhoeddwyd Báthory yn frenin, a choronwyd ef yn Kraków. Yna penododd y brenin Zamoyski yn brif ganghellor ym 1578. Yn ystod y rhan fwyaf o'r 10 mlynedd y bu Báthory yn teyrnasu, y canghellor oedd ei brif gynghorwr. Yn ôl ei gyngor ef y darfu i Báthory ofalu am lenwi ei drysorfa, ac aduno taleithiau ei deyrnas, a gwnaed heddwch ag Awstria. Ym 1579, torrodd rhyfel allan yn Lifonia, drwy i'r dalaith gael ei goresgyn gan y Rwsiaid. Galwodd Báthory y llwyrwys ynghyd, a chynghorai yr aelodau i ddial y cam. Tybiai rhai o'r aelodau y dylesid cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Tartariaid hefyd, ond cyngor doeth oedd Zamoyski, i orffen gyda'r Rwsiaid yn gyntaf cyn ymosod ar un gelyn arall, a fabwysiadwyd. Dechreuwyd y rhyfelgyrch, a bu yn llwyddiannus. Dygai Báthory y gweithrediadau milwrol ymlaen, a gofalai Zamoyski am yr achosion gwladol. Llwyrwys ystormus a gafwyd ym 1580. Yr oedd ei elynion ef yn cenfigennu wrtho, am ei fod mor uchel yn ffafr y brenin, a cheisient lethu ei wladlywiaeth. O'r diwedd, caniatawyd yr arian gofynol, ac adnewyddwyd y rhyfel yn llwyddiannus. Ym 1581 dyrchafwyd Zamoyski yn Hetman Mawr ac felly yn gadlywydd ar luoedd arfog y Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd. Daeth y rhyfel hwn i derfyniad yn nechrau 1582, a gadawyd yr holl ymdrafodaeth gyda golwg ar gytundeb heddwch yn nwylo Zamoyski. Yn ôl y cytundeb hwn, rhoddodd y Tsar i fyny Lifonia, Esthland, a Novgorod. Ymddangosodd dau gennad Tartaraidd yn y llwyrwys yn Hydref 1582, i hawlio teyrnged. Atebodd y Pwyliaid trwy ddanfon Zamoyski â byddin i'r cyffiniau, i'w gosod mewn sefyllfa amddiffynedig, yr hyn a barodd fraw i'r gelyn.

Ar ei ddychweliad i Kraków, cafodd Zamoyski nith y brenin yn wraig. O'r pryd hwn hyd farwolaeth Báthory, ychydig o ran a gymerodd efe mewn achosion cyhoeddus. Ciliodd i'w gymdogaeth frodorol, i Skokówka, ac ymroddodd i ddiwyllio a gwellhau ei etifeddiaethau, a sefydlu colegau a swyddfeydd argraffu. Ar ôl marwolaeth Báthory, ym 1586, er fod ei elynion yn lliaws, daeth yn amlwg nad oedd gafael Zamoyski ar feddyliau y cyhoedd wedi gwanhau nemawr. Ymgasglodd pleidwyr Samuel Zborowski yn y fath nerth i'r llwyrwys, y mae yn wir, fel y cymerwyd oddi ar Zamoyski lywyddiaeth y fyddin. Ond yn ôl cyngor ei gyfeillion, casglodd filwyr, ac erbyn y dydd i ethol brenin, yr oedd ganddo 10 mil o farchfilwyr ar lan ddeheuol Afon Vistula, gyferbyn â Warsaw, a llwyddodd i gael ethol Zygmunt III Waza. Gwrthdystiodd Zborowski yn erbyn yr etholiad, ac anfonodd genhadon at yr ymgeisydd arall, sef yr Archddug Maximilian (brawd i Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig), yn ei wahodd i wneuthur ei hawl yn dda trwy rym arfau. Derbyniodd Zygmunt III yr orsedd, a daeth i Kraków ar 29 Rhagfyr 1586. Aeth Zamoyski i wrthwynebu Maximilian yn Silesia, a syrthiodd yr archddug yn garcharor i'w ddwylo ef ym Mrwydr Byczyna ar 14 Ionawr 1588. Ond ar ei addewid i roddi i fyny bob hawl i'r goron, gollyngwyd ef yn rhydd, ond mor fuan ag y croesodd drosodd i diriogaeth Awstria, gwnaeth yn amlwg ei benderfyniad i beidio parchu ei addewid. Yr oedd y saith mlynedd dilynol o fywyd Zamoyski yn rhai cynhyrfus, rhwng rhyfeloedd oddi allan, ac ymrysonau oddi mewn. Nid oedd y brenin yn gyfaill iddo, oherwydd yr oedd yn arfer croesi ei feddwl yn fynych. Ond er yr holl anawsterau, llwyddodd y prif ganghellor i drech y fyddin Otomanaidd ym 1591–92, ac ataliodd enciliad y Tartariaid trwy Wlad Pwyl ym 1593. Gorchfygodd y Tyrciaid yn Walachia ym 1595, a thrachefn ym 1596, a'r Swediaid ym 1597.

Diwedd ei oes golygu

Gan fod ei nerth corfforol yn pallu, ymddiswyddodd o faes y gad ym 1602 a throsglwyddai brif lywyddiaeth y fyddin i Jan Karol Chodkiewicz. O'r pryd hwn hyd 1605, arhosodd Zamoyski gan fwyaf mewn ymneilltuaeth. Daeth o'i neilltuaeth i'r llwyrwys ym 1605, ac yr oedd hynodrwydd mawr yn perthyn i olygfa ddiweddaf ei fywyd cyhoeddus. Yr oedd gwraig gyntaf Zygmunt III wedi marw, ac yntau yn awyddus am briodi ei chwaer hi, yr hon oedd yn dywysoges Awstriaidd. Gwrthwynebai Zamoyski hyn, gan ei fod ef yn barnu mai mwy manteisiol i Wlad Pwyl a fuasai iddo briodi un o deulu brenhinol Rwsia. Aeth y ddadl gan hynny yn un danllyd. Penderfynodd y canghellor na chymerai un rhan ynddi, ond cafodd ei gynhyrfu. Cymerodd ei eisteddle yn agos i'r orsedd, ac wedi gwneud ymddiheuriad oherwydd ei lesgedd am y rhyddid a gymerai, aeth ymlaen i annerch y brenin mewn ffordd nad ydyw tywysogion yn gyffredin yn cael eu hannerch. Datganai ei farn y dylasai y brenin ymdrechu dwyn y rhyfel Swedaidd i derfyniad. Atgofiodd iddo ei fod wedi bod yn euog o'r blaen o aberthu manteision y wladwriaeth er ateb ei ddibenion ei hun, a gwrthdystiodd hefyd yn erbyn iddo briodi tywysoges Awstriaidd fel peth peryglus i Wlad Pwyl. Ac nid ymfodlonodd ar hyn: cyhuddodd y brenin o amcanu diogelu y goron i'w fab, ar draul difetha'r cyfansoddiad, a gohebu yn ddirgelaidd â galluoedd tramor, ac atgofiodd iddo hefyd mewn tôn ddigofus fod y Pwyliaid wedi diorseddu ac alltudio brenhinoedd o'r blaen wedi iddynt gael eu digio ganddynt. Cythruddwyd Sigismund gan ymadroddion mor blaen, ac atebodd yntau yr un mor chwerw. ac ar derfyn ei araith, gosododd ei law ar ei gleddyf. Ar hyn cyfododd y seneddwyr a'r cynrychiolwyr yn un corff, a dechreuasant furmur. Clywyd llais yr hen ganghellor yn uwch na'r dwndwr yn dweud: "Dywysog, tynwch eich llaw oddi ar y cleddyf! Na chaffed hanesyddiaeth gofnodi ein bod ni yn Frutusiaid, a chwithau yn Cesar!" Ar derfyn y llwyrwys ymneilltuodd Zamoyski drachefn i fyw ar ei etifeddiaeth. Ar 3 Mehefin 1605, eisteddai yn ei gadair, a thybiai ei weision mai mewn dwys fyfyrdod yr oedd efe, ond erbyn myned ato cafwyd ei fod wedi marw, yn Zamość yn 63 oed.

Yr oedd Zamoyski yn ysgolhaig gwych, yn ddiplomydd medrus, ac yn gadfridog llwyddiannus. Dengys y ffaith ddarfod iddo gadw ei sefyllfa mewn awdurdod am yn agos i 30 mlynedd, mewn gwlad mor gynhyrfus â Gwlad Pwyl, ei fod yn ddyn o alluoedd ac egni rhyfeddol, ac y mae ei ysgrifeniadau yn amlygu adnabyddiaeth eang o'r natur ddynol.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.