Jane Austen

nofelydd Seisnig

Nofelydd o Saesnes oedd Jane Austen (16 Rhagfyr 177518 Gorffennaf 1817). Mae hi'n adnabyddus am ei gweithiau fel Pride and Prejudice a Sense and Sensibility. Ysgrifennai mewn arddull realaidd a chaiff ei hystyried yn sylwebydd cymdeithasol sylwgar a feddai ar iaith anuniongyrchol a oedd yn llawn eironi. Oherwydd hyn, hyhi yw un o ysgrifenwyr mwyaf poblogaidd yn Saesneg.

Jane Austen
GanwydJane Austen Edit this on Wikidata
16 Rhagfyr 1775 Edit this on Wikidata
Steventon Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd16 Rhagfyr 1775, 5 Ebrill 1776 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1817 Edit this on Wikidata
o afiechyd Addison Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Reading Abbey Girls' School
  • Prifysgol Bournemouth Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, awdur storiau byrion, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPride and Prejudice, Emma, Persuasion, Sense and Sensibility, Mansfield Park, Northanger Abbey Edit this on Wikidata
Arddullnofel ramant, llenyddiaeth Gothig Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
TadGeorge Austen Edit this on Wikidata
MamCassandra Austen Edit this on Wikidata
LlinachJane Austen's family and ancestry Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei eni yn Steventon, Hampshire. Rheithor oedd ei thad, y Parch George Austen. Treuliodd Austen ei bywyd cyfan fel rhan o deulu bach a chlos, a oedd ar ymylon bywyd bonheddig yn Lloegr. Derbyniodd ei haddysg gan ei thad yn bennaf, yn ogystal â'i brodyr hŷn a'i darllen personol ei hun. Roedd cefnogaeth di-derfyn ei theulu yn rhan annatod o ddatblygiad Austen fel ysgrifennwr proffesiynol. Parhaodd prentisiaeth Austen fel ysgrifennwraig o'i harddegau tan ei bod tua 35 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, arbrofodd â nifer o arddulliau ysgrifenedig, gan gynnwys y nofel epistolaidd. Ysgrifennodd dair nofel fawr a dechreuodd ei phedwaredd.

O 1811 tan 1816, llwyddodd Austen fel awdures, gyda'r nofelau canlyol yn cael eu rhyddhau: Sense and Sensibility (1811), Pride and Prejudice (1813), Mansfield Park (1814) ac Emma (1816). Ysgrifennodd ddwy nofel arall hefyd, Northanger Abbey a Persuasion a gafodd eu cyhoeddi ym 18181 ar ôl ei marwolaeth. Roedd hi hefyd wedi dechrau nofel arall sef "Sanditon" ond bu farw cyn iddi fedru ei gwblhau.

Bu farw Austen yng Nghaerwynt.

Llyfryddiaeth golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.