Awdures Americanaidd yw Jane Espenson (ganwyd 14 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur.

Jane Espenson
Ganwyd14 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Ames, Iowa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Inkpot, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.janeespenson.com/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Ames, Iowa ar 14 Gorffennaf 1964. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley.[1][2][3]

Mae Espenson wedi gweithio ar gomedïau sefyllfa a dramâu cyfresol. Cafodd bum mlynedd fel awdur a chynhyrchydd ar Buffy the Vampire Slayer a rhannodd Wobr Hugo am ei hysgrifennu ar y bennod "Conversations with Dead People". O 2006 i 2010, gweithiodd ar Battlestar Galactica a llawer o'r gwaith dilynol. Rhwng 2009 a 2010 bu'n gwasanaethu ar Caprica, fel cyd-weithredwr a chynhyrchydd gweithredol y gyfres deledu. Yn 2010, ysgrifennodd bennod o Game of Thrones (HBO), ac ymunodd â'r staff ysgrifennu ar gyfer pedwerydd tymor rhaglen deledu Torchwood, a ddarlledodd BBC One yn y Deyrnas Gyfunol a "Starz" yn yr Unol Daleithiau yn ystod canol 2011.

Bu hefyd yn gweithio ar gyfres ABC, sef Once Upon a Time, a bu'n rhan o Husbands, Brad Bell.

Magwraeth a choleg golygu

Fe'i magwyd yn Ames, Iowa lle mynychodd Ames High School.

Tra'n astudio gwyddoniaeth cyfrifiadurol ac ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, dechreuod ddanfon sgriptiau ar gyfer Star Trek: The Next Generation, fel rhan o'i chwrs. [4]

Yn ei harddegau, cafodd Espenson wybod bod M * A * S * H yn derbyn drafft-sgriptiau heb addewid o daliad neu waith yn y dyfodol. Er nad oedd yn awdur sefydledig ar y pryd, bwriadodd ysgrifennu ei phennod gyntaf: "Roedd yn drychineb. Wnes i erioed ei anfon. Doeddwn i ddim yn gwybod y fformat cywir. Doeddwn i ddim yn gwybod y cyfeiriad ble i anfon, ac wedyn roeddwn i'n meddwl, dydyn nhw ddim wir yn gallu fy llogi tan i mi orffen yn yr ysgol iau, beth bynnag."[5]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Inkpot (2014), Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir (2012)[6] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Jane Espenson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Anrhydeddau: https://www.comic-con.org/awards/inkpot. dyddiad cyrchiad: 27 Awst 2021.
  5. Kelly, Suzanne. "Jane Espenson: Writer, sci-fi thriller, one nerdy lady". CNN. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.
  6. https://www.comic-con.org/awards/inkpot. dyddiad cyrchiad: 27 Awst 2021.