Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jane E. Taylour (1827 - 25 Chwefror 1905) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched, sef etholfraint.

Jane Taylour
Ganwyd1827 Edit this on Wikidata
Stranraer Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Saffron Walden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethswffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Stranraer yn 1827 a bu farw ym mynwent y Crynwyr yn Saffron Walden, Essex.

Roedd Jane E. Taylour yn un o'r merched cyntaf i draddodi darlithoedd cyhoeddus. Teithiodd o gwmpas yr Alban a gogledd Lloegr yn annerch y dorf ar faterion yn ymwneud â hawliau merched, yn enwedig yr ymgyrch dros thoi'r bleidlais iddynt.

Nid oes sicrwydd pa flwyddyn y ganed Taylour, naill ai 1827[1] neu 1828[2]. Fe'i ganed yn Stranraer i Maria Angus a Nathaniel Taylor a buont fyw yn Balfour. Yn 1861 symudodd i Saffron Walden yn Essex, ac yn 1901 gwyddus iddi fod yn byw yno gyda Rachel P. Robson.[3]

Ymgyrchydd golygu

Fe'i disgrifiwyd gan Clementia Taylor fel "the energetic little woman from Stranraer".[4] Roedd yn areithwraig hynod o boblogaidd: fel arfer, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr i gynnal yr holl wrandawyr, a chyhoeddwyd ei hareithiau yn y papurau newydd.

Y ddwy gydymaith iddi ar y teithiau hyn oedd Mary Hill Burton ac Agnes McLaren. Teithiodd McLaren a Taylour i ogledd yr Alban "gan fod popeth y gellid ei wneud yng Nghaeredin wedi'i wneud".

Erbyn 1873 roedd wedi cynnal dros 150 o gyfarfodydd areithio yn yr Alban yn unig.[3] Gwyddys fod nifer o bwyllgorau ffeministaidd wedi eu cychwyn oherwydd iddi eu hysbrydoli e.e. Tain, Dingwall, Forres, Elgin, Banff, Invergordon, Nairn a Dunkeld.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol dros Hawl Merched i Bleidleisio am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Scottish women : a documentary history, 1780-1914. Breitenbach, Esther. Edinburgh: Edinburgh University Press. 2013. ISBN 9780748683406. OCLC 857078955.CS1 maint: others (link)
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :3
  3. 3.0 3.1 The biographical dictionary of Scottish women : from the earliest times to 2004. Ewan, Elizabeth., Innes, Sue., Reynolds, Sian. Edinburgh: Edinburgh University Press. 2006. ISBN 9780748626601. OCLC 367680960.CS1 maint: others (link)
  4. Elizabeth., Crawford, (2001). The women's suffrage movement : a reference guide, 1866-1928. London: Routledge. ISBN 0415239265. OCLC 44914288.CS1 maint: extra punctuation (link)