Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Jazz Richards (ganwyd Ashley Darel Jazz Richards 12 Ebrill 1991). Mae'n chwarae fel amddiffynnwr i Fulham, a thîm cenedlaethol Cymru.

Jazz Richards

Richards yn chwarae i Abertawe yn 2013
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnAshley Darel "Jazz" Richards
Dyddiad geni (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (32 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
Taldra6 tr 1 modf (1.85 m)
SafleAmddiffynnwr/Cefnwr/Canolwr
Y Clwb
Clwb presennolAbertawe
Rhif29
Gyrfa Ieuenctid
2005–2007Caerdydd
2007–2009Abertawe
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2009–Abertawe39(0)
2013Crystal Palace (benthyg)11(0)
2013Huddersfield Town (benthyg)9(0)
2015Fulham (ar fenthyg)14(0)
Tîm Cenedlaethol
2007–2008Cymru dan 1710(0)
2008–2009Cymru dan 1911(0)
2009–2012Cymru dan 2115(0)
2012–Cymru5(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Mai 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 12 Mehefin 2015 (UTC)

Gyrfa clwb golygu

Abertawe golygu

Gwnaeth Richards ei ymddangosiad cynytaf i Abertawe yn 18 mlwydd oed mewn gêm yn Y Bencampwriaeth yn erbyn Middlesbrough ar 15 Awst 2009[1]. Ar ddiwedd y tymor, ar ôl 15 ymddangosiad yn y tîm cyntaf, cafodd ei enwebu'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ac arwyddodd gytundeb dwy flynedd gyda'r clwb[2].

Ar 15 Hydref 2011, chwaraeodd Richards ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr[3] ond er ymestyn ei gytundeb ymhellach, ymunodd Richards â Crystal Palace ar fenthyg yn Ionawr 2013[4] gan helpu'r clwb o Lundain i sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Ar ôl dychwelyd i Abertawe, aeth ar fenthyg unwaith eto ym Medi 2013 gan ymuno â Huddersfield Town am dri mis.

Fulham golygu

Yng Ngorffennaf 2015, ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Fulham[5][6], ymunodd Richards â'r clwb o orllewin Llundain yn barhaol[7].

Gyrfa ryngwladol golygu

Ar ôl cynrychioli timau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru, gwnaeth Richards ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ar 27 Mai 2012[8].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Swansea 0–3 Middlesbrough". BBC Sport. BBCSport. 2009-08-15.
  2. "Ashley Richards signs new Swansea deal". BBCSport. BBCSport.
  3. "Jazz Richards rewarded with new Swansea City contract". BBCSport. BBC Sport.
  4. "Crystal Palace sign Swansea's Ashley Richards on loan". BBCSport. BBC Sport.
  5. "Jazz joins Fulham on loan". swanseacity.net. 2015-01-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-25. Cyrchwyd 2016-01-04.
  6. "Jazz extends Fulham loan for remainder of season". Swansea City A.F.C. 2015-02-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-25. Cyrchwyd 2016-01-04.
  7. "Jazz Joins Fulham". Fulham. Cyrchwyd 2015-07-02.
  8. "Mexico 2-0 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter |published= ignored (help)