Jean-Baptiste Maunier

Mae Jean-Baptiste Maunier (ganwyd ar 22 Rhagfyr 1990) yn actor a chantor Ffrangeg ifanc, mwyaf enwog am ei rôl yn y ffilm Les Choristes. Mae'n byw yn Lyon, De Ffrainc, gyda'i deulu.

Jean-Baptiste Maunier
Ganwyd22 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
Brignoles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Institiwt Ffilm a Theatr Strasbwrg Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, canwr, model, actor teledu Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jbmaunier.net Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Enillodd enwogrwydd am ei rôl yn y ffilm Les Choristes yn 2004. Chwaraeodd Pierre Morhange, tramgwyddwr gyda llais eithriadol yn yr ysgol breswyl i fechgyn drwg, Fond de L'Etang. Mae cerddoriaeth wreiddiol Les Choristes yn cynnwys llais Maunier gyda'r côr i blant, Les Petits Chanteurs de Saint-Marc. Cafodd Maunier ei ddewis oherwyd ei ddawn leisiol eithriadol "angylaidd" (fel ei disgrifiwyd) yn ogystal â'i bryd a'i wedd.

Yn 2005, canodd yn Concerto pour deux Voix (Concerto i ddwy lais), gyda Clémence Saint-Preux. Yn 2006, chwaraeodd löwr ifanc o'r enw Robert yn y gyfres deledu, Le Cri.

Yn y ffilm animeiddiedig Piccolo, Saxo et Compagnie, rhoddodd ei lais i gymeriad Saxo; offeryn egr sy'n caru byrfyfyrio a sydd yn helpu Piccolo ar antur wyllt.

Yn 2007, büodd yn chwarae'r prif rôl yn nwy ffilm lwyddiannus: La lettre de Guy Môquet, ffilm hanesyddol lle chwaraeodd gomiwnydd ifanc o'r Ail Ryfel Byd, a Hellphone, ffilm fywiog i blant hŷn lle chwaraeodd fachgen o'r enw Sid.

Ei ffilm ddiweddaraf yw L'Auberge Rouge a ddangoswyd yn sinemáu Ffrangeg yn Rhagfyr 2007 lle mae Maunier yn chwarae Octave.

Er bod Jean-Baptiste heb roi'r gorau i ganu yn gyfan gwbl, mae'n amlwg bod ei yrfa gerddorol wedi ei gohirio am gyfnod er mwyn iddo ganolbwyntio ar ei actio. Mae ef o hyd yn canu gyda Les Enfoirés sef côr o sêr mwyaf Ffrainc sydd yn canu o bryd i'w gilydd (â Maunier yn 2006 a 2008) i godi arian ar gyfer elusennau.

Ar hyn o bryd mae'n treulio blwyddyn yn Ysgol Lee Strasbourg yn Efrog Newydd er mwyn gwella ei Saesneg.

Ei Ffilmiau golygu

  • 2004 : Les Choristes, ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Christophe Barratier.
  • 2006 : Le cri, ffilm deledu Ffrengig gan Hervé Baslé, mewn 4 rhan.
  • 2006 : Piccolo, Saxo, et Compagnie, Ffilm CGI animeiddiedig i blant. Maunier yn chwarae rôl Saxo.
  • 2006 : Le Grand Meaulnes, addasiad o'r nofel gan Alain-Fournier. Maunier yn chwarae rôl y storïwr, François Seurel.
  • 2007 : Hellphone, cynhyrchwyd gan James Huth. Rhyddhawyd ar Fawrth 28, 2007 yn Ffrainc.
  • 2007 : La lettre de Guy Môquet, Jean-Baptiste yn chwarae Guy Môquet. Darlledwyd yn Ffrainc yn Hydref 2007.
  • 2007 : L'Auberge Rouge, Jean-Baptiste fel Octave. Rhyddhawyd ar Ragfyr 5 2007 yn Ffrainc.

Dolen allanol golygu