Jean Stafford
Awdures Americanaidd oedd Jean Stafford (1 Gorffennaf 1915 - 26 Mawrth 1979) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am nofelau a'i storiau byrion.[1][2]
Jean Stafford | |
---|---|
Robert Lowell, Jean Stafford, a Peter Taylor yn 1941. | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1915 Covina |
Bu farw | 26 Mawrth 1979 White Plains, Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, awdur storiau byrion |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Mountain Lion, The Collected Stories of Jean Stafford |
Tad | John Richard Stafford |
Mam | Mary Ethel McKillop |
Priod | A. J. Liebling, Robert Lowell, Oliver Jensen |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr O. Henry |
Fe'i ganed yn California a bu farw yn White Plains, Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Colorado Boulder a Phrifysgol Colorado. Bu'n briod i A. J. Liebling ac yna i Robert Lowell. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mountain Lion a The Collected Stories of Jean Stafford.[3][4][5]
Yr awdur golygu
Enillodd ei chyfrol The Collected Stories of Jean Stafford Wobr Pulitzer am Ffuglen yn 1970. [6]
Roedd ei nofel gyntaf, Boston Adventure, yn werthwr-gorau, gan ennill clod cenedlaethol.[7] Ysgrifennodd ddwy nofel arall yn ei gyrfa, ond ei phrif gyfrwng oedd y stori fer: cyhoeddwyd ei gweithiau yn The New Yorker ac amrywiol gylchgronau llenyddol.
Bywyd personol golygu
Roedd bywyd personol Stafford yn llawn anhapusrwydd. Bu'n briod deirgwaith. Gadawodd ei phriodas gyntaf, i'r bardd ansefydlog Robert Lowell, greithiau emosiynol a chorfforol cyson. Cafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn damwain car gyda Lowell wrth y llyw, trawma a ddisgrifiodd yn un o'i straeon mwyaf adnabyddus, The Interior Castle, ac roedd yr anffurfiad corfforol a ddioddefodd o ganlyniad i'r ddamwaith yn drobwynt yn ei bywyd. Daeth ail briodas - i un o olygyddion y cylchgrawn Life, Jensen, i ben mewn ysgariad hefyd. Mwynhaodd Stafford gyfnod byr o hapusrwydd domestig gyda'i thrydydd gŵr, A. J. Liebling, awdur blaenllaw ar gyfer The New Yorker. Ar ôl ei farwolaeth, rhoddodd y gorau i ysgrifennu ffuglen.
Yr alcoholig golygu
Am nifer o flynyddoedd roedd Stafford yn dioddef o alcoholiaeth, iselder, a chlefyd yr ysgyfaint. Erbyn iddi fod yn 65 oed, yn 1979, roedd hi bron wedi rhoi'r gorau i fwyta a bu farw o ataliad y galon yn White Plains, Efrog Newydd.[8]
Anrhydeddau golygu
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1945), Gwobr Pulitzer am Ffuglen (1970), Gwobr O. Henry (1955)[9][10] .
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "The Mountain Lion". New York Review Books.
- ↑ Yardley, Jonathan (February 12, 2007). "Jean Stafford, Diamond in A Rough Life". The Washington Post.
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12053779d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford".
- ↑ Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12053779d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford".
- ↑ Anrhydeddau: http://www.gf.org/fellows/all-fellows/jean-stafford/. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015. http://www.pulitzer.org/bycat/Fiction. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015.
- ↑ Wesleyan.edu Archifwyd 2017-03-14 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ "Adventures in Abandonment". NYTimes.com. Cyrchwyd 2016-06-15.
- ↑ http://www.gf.org/fellows/all-fellows/jean-stafford/. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015.
- ↑ http://www.pulitzer.org/bycat/Fiction. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015.