Jean le Rond d'Alembert

Mathemategydd, gwyddonydd, ac athronydd Ffrengig yng nghyfnod yr Oleuedigaeth oedd Jean le Rond d'Alembert (17 Tachwedd 171729 Hydref 1783) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fecaneg glasurol a chalcwlws integrol.[1] Yn ei Traité de dynamique (1743) fe gyflwynai datrysiad, a elwir egwyddor d'Alembert, i gymhwyso trydedd ddeddf mudiant Newton at wrthrychau sy'n symud. Darganfu d'Alembert hafaliad tonnau un-dimensiwn, math o hafaliad differol, ym 1746, a ddatblygodd ffurf gynnar ar system hafaliadau Cauchy–Riemann. Efe oedd un o'r prif gyfranwyr at yr Encyclopédie (1751): cyd-olygydd yr argraffiad cyntaf, gyda Denis Diderot, ac awdur rhyw fil o erthyglau, gan gynnwys y "Discours Préliminaire". Ei arbenigedd, wrth gwrs, oedd mathemateg a ffiseg, a chyfrannodd hefyd draethodau am gerddoriaeth ac acwsteg.

Jean le Rond d'Alembert
Portread pastel o Jean le Rond d'Alembert gan Maurice Quentin de La Tour (1753).
Ganwyd16 Tachwedd 1717 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 1783 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Teyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, mathemategydd, ffisegydd, cerddolegydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, damcaniaethwr cerddoriaeth, gwyddoniadurwr, peiriannydd, seryddwr, geiriadurwr, deallusyn Edit this on Wikidata
Swyddperpetual secretary of the French Academy, seat 25 of the Académie française Edit this on Wikidata
Adnabyddus amd'Alembert's paradox, d'Alembert operator, Encyclopédie Edit this on Wikidata
TadLouis-Camus Destouches, Léopold Philippe d'Arenberg Edit this on Wikidata
MamClaudine Guérin de Tencin Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef ym Mharis, Teyrnas Ffrainc. Cafwyd ef yn noeth ar risiau eglwys St Jean le Rond: dygwyd ef i fyny gan wraig gwydrwr, a darganfyddwyd mai mab anghyfreithlon ydoedd i'r Chevalier Destouches a Madame de Tencin, gwraig hynod am ei harabedd a'i phrydferthwch, gŵr yr hon oedd yn swyddog cyflegrol. Efe a dderbyniodd ei addysg yng Ngholeg Mazarin: ymroddodd gyda brwdfrydedd i astudio gwyddoniaeth, a derbyniwyd ef i'r Athrofa Wyddonol ym 1741. Gyda Diderot, efe a sefydlodd yr Encyclopédie enwog: ysgrifennodd y traethawd rhagarweiniol iddo, a golygodd y rhan wyddonol o'r gwaith. Yr oedd yn gyfaill i Ffredrig II, Brenin Prwsia, yr hwn yn aflwyddiannus a geisiodd ganddo ymsefydlu ym Merlin. Gwasgodd Catrin II, Ymerodres Rwsia arno i ymgymryd ag addysg ei mab, ond yn ofer. Hoffai neilltuaeth ac annibyniaeth, safai draw o gymdeithas, ac nid oedd yn gofalu dim ynghylch arian ac anrhydedd. Ysgrifennodd amryw o lyfrau pwysig ar wahanol bynciau gwyddonol a hanesiol. Bu hefyd yn un o ryddfeddylwyr amlyca'r Oleuedigaeth yn Ffrainc. Prif nodweddion ei gymeriad oedd caredigrwydd, symlrwydd, ac annibyniaeth. Fe'i etholwyd i'r Académie française ym 1754,[2] a bu farw ym Mharis yn 65 oed. Yr argraffiad gorau o'i weithiau athronyddol a llenyddol yw un a gyhoeddwyd gan Bastren ym Mharis, ym 1805, mewn deunaw o gyfrolau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jean Le Rond d'Alembert | French mathematician and philosopher". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2021.
  2. "Jean LE ROND, dit d' ALEMBERT (1717-1783) Secrétaire perpétuel". www.academie-francaise.fr/immortels. 31 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-31. Cyrchwyd 2022-03-16.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.