Deuawd bop Wyddelig yw John Paul Henry Daniel Richard Grimes ac Edward Peter Anthony Kevin Patrick Grimes (ganwyd 16 Hydref 1991 yn Nulyn, Iwerddon). Maent yn efeilliaid unfath sydd yn perfformio fel Jedward. Mae Jedward yn enwog am eu cwiff golau, ers iddyn nhw ddod i sylw'r cyhoedd yn gyntaf fel John & Edward ar The X Factor yn 2009. Gorffenasant ill dau yn chweched a daeth Louis Walsh, eu tiwtor ar The X Factor, eu goruchwyliwr.[1]

Jedward
GanwydDulyn Edit this on Wikidata
Label recordioSony Music, Universal Music Group Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.planetjedward.net Edit this on Wikidata

Rhyddhaodd Jedward eu sengl cyntaf, "Under Pressure (Ice Ice Baby)", ar 1 Chwefror 2010. Rhyddhawyd y sengl gan Sony Music ac cyrhaeddodd yr ail safle yn Siart Senglau'r Deyrnas Unedig, a brig Siart Senglau Iwerddon. Roedd eu halbwm cyntaf, Planet Jedward, rhif un yn Iwerddon a 17eg yn y DU.

Eurovision golygu

Cynrychiolodd Jedward Iwerddon yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Lipstick".[2] Daeth eu cân 8fed yn yr ail rownd gynderfynol ac 8fed eto yn y rownd derfynol gyda 119 pwynt. Y gân gyntaf o'u hail albwm yw "Lipstick" a cafodd ei ryddhau yn haf 2011.

Bydd Jedward yn cynrychioli Iwerddon eto yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 a gynhelir yn Baku, Aserbaijan gyda'u cân "Waterline".

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu