Jenny Ogwen

actores a aned yn 1944

Cyflwynwraig ac actores o Gymraes yw Jenny Ogwen (neé Jones)[1], sy'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C.

Jenny Ogwen
Ganwyd1944 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
PriodEuryn Ogwen Williams Edit this on Wikidata
PlantRhodri Williams Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Ogwen yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin a symudodd ei theulu i Grymych, Sir Benfro pan oedd yn ddwy oed.[2] Yn ei harddegau cafodd ei choroni'n 'Miss Pembrokeshire 1961' ac enillodd deitl 'Miss Norvic Teenager of the Year' yn Llundain. Gadawodd ysgol yn 16 ac aeth i Lundain i hyfforddi i fod yn ysgrifenyddes pan oedd yn 17 oed. Daeth yn ôl i Gymru yn 19 oed.[3]

Gyrfa golygu

Ei swydd gyntaf yn y cyfryngau oedd fel ysgrifenyddes ar raglen newyddion Y Dydd. Aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen Siôn a Siân yn ystod yr 1960au a rhaglenni i blant ac actio yn Now You're Talking, sef cyfres deledu i ddysgwyr. Mae hefyd wedi cyflwyno ar Radio Acen.[2] Bu'n gyflwynydd ar HTV Cymru a Thames TV cyn cyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C yn yr 1990au. Ymddeolodd o'i swydd fel cyflwynydd tywydd yn Awst 2004 a chymerodd Erin Roberts ei hen swydd.[4][5]

Mae ei theulu hefyd yn ymwneud â'r cyfryngau. Roedd ei gŵr Euryn Ogwen Williams (1942–2021) yn ddarlledwr a cynhyrchydd teledu nodedig. Mae ei mab Rhodri yn gweithio gyda Sky Sports yn Llundain ac i S4C ar raglenni fel Y Clwb Rygbi a Pacio. Mae'n fam i Sara, sy'n cyflwyno ar S4C, a hefyd yn nain i'w merch hithau, Soffia, a chwaraeodd Catrin Bennett yn Pobol y Cwm.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hannah Jones. Welsh Homes: Sanctuary with a whiff of the sea; FAVOURITE ROOM: Broadcaster Jenny Ogwen's snug is filled with mementos of Pembrokeshire (en) , 18 Mai 2002. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2  Cyfweliad â Jenny Ogwen. Cylchgrawn Acen (Ebrill 2003).
  3.  Gwales - Glaw a Hindda. Adalwyd ar 22 Chwefror 2016.
  4.  Rhagolwg braf i Erin. Newyddion BBC Cymru (5 Awst 2004).
  5.  Erin joins S4C weather team (4 Awst 2004).