Jens Peter Jacobsen

Nofelydd. awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Ddaneg a botanegydd Danaidd oedd Jens Peter Jacobsen (7 Ebrill 184730 Ebrill 1885).

Jens Peter Jacobsen
Ganwyd7 Ebrill 1847 Edit this on Wikidata
Thisted Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1885 Edit this on Wikidata
Thisted Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDenmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd, bardd, cyfieithydd, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGustave Flaubert, Stendhal, Émile Zola Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Thisted yng ngogledd Jylland yn fab i farsiandïwr. Astudiodd y gwyddorau naturiol ym Mhrifysgol Copenhagen. Cyfieithodd ddau brif waith Charles Darwin i'r Ddaneg: On the Origin of Species yn 1871–73 a The Descent of Man yn 1874.[1]

Dan ddylanwad y beirniad ac ysgolhaig llenyddol Georg Brandes, un o'i ddarlithwyr yn Copenhagen, daeth Jacobsen i flaen y gad yn y mudiad Naturiolaidd yn llên Denmarc. Cyhoeddodd ei waith cyntaf, y nofel fer Mogens, yn 1872. Ysgrifennodd ddwy nofel, Fru Marie Grubbe (1876) a Niels Lyhne (1880), ac un gyfrol o straeon byrion, Mogens og andre Noveller (1882).

Teithiodd i'r Eidal tua 1873 ac yno cafodd dwbercwlosis, afiechyd a fu Jacobsen yn dioddef hyd nes ei farwolaeth. Treuliodd ddeuddeng mlynedd olaf ei oes yn gweithio yn ei boen beunyddiol ac ysgrifennu'n araf iawn. Bu farw o dwbercwlosis yn Thisted yn 38 oed. Wedi ei farwolaeth, cesglid ei farddoniaeth yn y gyfrol Digte og udkast (1886).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jens Peter Jacobsen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2019.