Gwleidydd Llafur Cymru yw Jeremy Miles sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd yn Senedd Cymru ers etholiad 2016.[1]

Jeremy Miles
AS
Jeremy Miles yn 2016
Cwnsler Cyffredinol Cymru
Mewn swydd
16 Tachwedd 2017 – 13 Mai 2021
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganMick Antoniw
Dilynwyd ganMick Antoniw
Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Mewn swydd
13 Rhagfyr 2018 – 13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganMark Drakeford
Aelod o Senedd Cymru
dros Gastell-nedd
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2016
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganGwenda Thomas
Mwyafrif2,923 (11.5%)
Gweinidog y Gymraeg
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganEluned Morgan
Gweinidog Addysg
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganKirsty Williams
Manylion personol
CenedlBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
CabinedCwnsler Cyffredinol Cymru
Gwefanjeremymiles.cymru

Addysg golygu

Addysgwyd Jeremy yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd y gyfraith yng Ngoleg Newydd, Rhydychen. Tra yn fyfyriwr, roedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwylim

Gyrfa wleidyddol golygu

Dewiswyd Miles fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Gwenda Thomas.[2] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,468 o'r 25,363 pleidlais a fwriwyd (37.3%).[3]

Fe'i enwebwyd yn Cwnsler Cyffredinol Cymru ar 3 Tachwedd 2017 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cadarnhawyd y swydd drwy bleidlais ar 14 Tachwedd 2017

Ym Mawrth 2018, cyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft a fyddai'n creu cyfundrefn i ddatblygu llyfr statud o Gyfraith Gyfoes Cymru, a fyddai'n gwneud Cymru y cyntaf o wledydd Prydain i drefnu ei chyfreithiau yn y ffordd yma. Byddai'r llyfr statud yn cael ei gynllunio i wella hygyrchedd i Ddeddfau Cymru ar gyfer cyfreithwyr a'r boblogaeth yn gyffredinol.[4]

Bywyd personol golygu

Mae Miles yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 AC hoyw neu lesbiaidd: 'Carreg filltir mewn democratiaeth' , BBC Cymru Fyw, 6 Mai 2016. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
  2. Martin Shipton. Economy Minister Edwina Hart and former deputy minister Gwenda Thomas to stand down as AMs at next Assembly elections , Wales Online, 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
  3.  Castell-nedd Etholaeth (Cynulliad). BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
  4.  Wales bill set to overhaul legislation (26 Mawrth 2018). Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.

Dolenni allanol golygu