Jerry Stiller

actor a aned yn 1927

Roedd Gerald Isaac "Jerry" Stiller (8 Mehefin 192711 Mai 2020) yn actor a digrifwr Americanaidd. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn y tîm comedi Stiller a Meara gyda'i wraig Anne Meara. Stiller a Meara yw rhieni'r actor Ben Stiller (bu'n cyd-serennu â'i fab yn y ffilmiau Zoolander, Heavyweights, Hot Pursuit a The Heartbreak Kid) a'r actores Amy Stiller. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl Frank Costanza yn y gyfres deledu Seinfeld a'i rôl gefnogol fel Arthur Spooner ar y gyfres deledu The King of Queens.

Jerry Stiller
GanwydGerald Isaac Stiller Edit this on Wikidata
8 Mehefin 1927 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 2020 Edit this on Wikidata
Upper West Side Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Syracuse
  • Seward Park High School
  • HB Studio Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llais, digrifwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
PriodAnne Meara Edit this on Wikidata
PlantAmy Stiller, Ben Stiller Edit this on Wikidata
Gwobr/auEllis Island Medal of Honor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Stiller yn Brooklyn, Efrog Newydd, yr hynaf o bedwar plentyn i rieni Iddewig, Bella (née Citrin) a William Stiller, gyrrwr bws. Ymfudodd ei deulu tadol o Galicia a ganwyd ei fam yng Ngwlad Pwyl.

Bywyd personol golygu

Roedd Stiller yn briod ag Anne Meare ers 1954 ac mae ganddynt ddau o blant, Ben Stiller ac Amy Stiller.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.