Pos sy'n cael ei ddatrys trwy osod a chysylltu darnau, fel arfer o feintiau neu siapiau amrywiol, yn y mannau cywir yw jig-so neu bos jig-so. Fel arfer, mae gan bob darn ran fach o'r darlun arno; unwaith mae'r jig-so wedi'i gwblhau, mae'n rhoi'r darlun llawn. Mae rhai mathau mwy cymhleth wedi'u cynhyrchu a'u gwerthu - rhai cronellog neu rai sy'n dangostwyll llygaid.

Jig-so
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathtiling puzzle, pos Edit this on Wikidata
CrëwrVija Celmins Edit this on Wikidata
Deunyddpaperboard Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfodc. 1760 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysjigsaw puzzle piece Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darnau jig-so

Byddai'r posau jig-so cyntaf yn cael eu creu trwy baentio llun ar ddarn o bren gwastad ac yna'r dorri'n ddarnau bach gyda herclif. Yr enw Saesneg ar y math hwnnw o lif, 'jig-saw', roddodd yr enw i'r math hwn o bos. John Spilsbury, ycartograffydd ac ysgythrwr o Lundain sy'n cael ei gydnabod am droi'r jig-so yn gynnyrch masnachol, a hynny o gwmpas y flwyddyn 1760.[1] O gardfwrdd mae'r rhan fwyaf o bosau jig-so yn cael eu creu erbyn hyn.

Mae'r mathau nodweddiadol o ddarluniau sy'n destun jig-so yn cynnwys golygfeydd o fyd natur, adeiladau, a dyluniadau ailadroddus. Mae cestyll a mynyddoedd yn ddau destun traddodiadol. Er hynny, gall unrhyw fath o ddarlun gael ei ddefnyddio i greu jog-so; mae rhai cwmniau yn cynnig troi ffotograffau personol yn bosau jig-so. Gall posau sydd wedi'u cwblhau gael eu gludo i rhywbeth a'u troi yn addurn neu eu fframio i'w harddangos.

Gellir hefyd brynu offer pwrpasol er mwyn storio neu hwyluso'r dasg o gyflawni pos jig-so, gan gynnwys byrddau, fframiau a matiau sy'n rolio.

Cyfeiriadau golygu

  1. McAdam, Daniel. "History of Jigsaw Puzzles". American Jigsaw Puzzle Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Hydref 2000. Cyrchwyd 13 Hydref 2014.