Mae jihad yn air Arabeg sy'n golygu 'dechrau', 'ymrwymiad' neu 'ymdrech' (yn benodol 'ymdrech ar y llwybr i ganfod Duw'). Mae ganddo le pwysig yn niwinyddiaeth ac ideoleg Islam.

Jihad
Mathcrefydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn y Coran gwahaniaethir yn eglur rhwng dau fath o jihad. Y lleiaf yw al-jihad al-asghar, sy'n golygu cymryd rhan mewn ymgyrch i amddiffyn y gymuned Foslemaidd (yr Umma) rhag ymosodiad. Mae'r mwyaf, al-jihad pur, yn fath o ymarfer ysbrydol neu grefyddol sy'n golygu fod y credinwr yn ymdrechu ynddo'i hun i orchfygu ei bechodau a pheidio mynd ar gyfeilorn; ymdrech i orchyfu'r Hunan a rhoi Duw yn ei le.

Mae rhai eithafwyr 'Mwslem' yn gweld jihad fel rhyfel sanctaidd yn erbyn gelynion tybiedig Islam, ond mae'r rhan fwyaf o Fwslemiaid yn gwrthod hynny. Yr ymadrodd Islamaidd am 'rhyfel sanctaidd' yw harb quds (sy'n cyfateb i'r gair Croesgad yn y traddodiad Cristnogol).

Mae jihad, yn y ffurf ljtihad, yn gallu golygu'r ymdrech a wneir gan farnwr i ddod i'r penderfyniad cywir mewn achos llys yn ogystal.

Ffynhonnell golygu

  • Gabriel Mandel Khan, Mahomet le Prophete (Paris, 2001)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.