Gwleidydd Cymreig yw Jillian "Jill" Evans (ganed 8 Mai 1959) sy'n Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, ac sy'n aelod blaenllaw o Blaid Cymru. Mae hefyd yn gadeirydd CND Cymru.

Jillian Evans
Aelod Senedd Ewrop
Aelod Senedd Ewrop
dros Gymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
10 Mehefin 1999
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Manylion personol
Ganed (1959-05-08) 8 Mai 1959 (64 oed)
Ystrad Rhondda, Sir Forgannwg
DinesyddCymraes
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru
PriodSyd Morgan
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Prifysgol Morgannwg (nawr yn Prifysgol De Cymru)
ProffesiwnAelod Senedd Ewrop
Gwefanhttp://www.jillevans.net/
Video (cymraeg) / (english)

Gyrfa golygu

Ganed hi yn Ystrad Rhondda yn y Rhondda a'i haddysgu yn Nhonypandy a Phrifysgol Abertawe. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym Mholitecnic Cymru lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol.

Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 1994 hyd 1996, a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad 1999, gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag Eurig Wyn. Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd y Blaid, cymerodd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.[1]

Yn Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Jill Evans yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[2]

Yn 2010 fe'i derbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
  2. Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360[dolen marw]
  3. "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru
1999 – presennol
gyda
John Bufton (ers 2009), Jonathan Evans (1999-2009), Glenys Kinnock (1999-2009), Eluned Morgan (1999-2009), Kay Swinburne (ers 2009) a Derek Vaughan (ers 2009) ac Eurig Wyn (1999-2004)
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Dafydd Iwan
Llywydd Plaid Cymru
2010 – presennol
Olynydd:
deiliad