Jim Henson

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Greenville yn 1936

Pypedwr Americanaidd oedd James Maury "Jim" Henson (24 Medi, 193616 Mai, 1990) a greodd sioeau poblogaidd fel y Muppets, a pherfformiodd ar Sesame Street a The Muppet Show. Mae'n bosibl taw Henson yw'r pypedwr mwyaf llwyddiannus erioed.[1] Ceisiodd foderneiddio pypedwaith ag arbenigedd technegol i'w addasu i'r sgrîn, a defnyddio pypedau fel modd o adrodd straeon.

Jim Henson
GanwydJames Maury Henson Edit this on Wikidata
24 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Greenville, Mississippi Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mai 1990 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Maryland, College Park
  • Northwestern High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, pypedwr, actor, sgriptiwr, animeiddiwr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Muppets, Labyrinth, The Dark Crystal, Fraggle Rock, Sesame Street, The Jim Henson Hour, Time Piece Edit this on Wikidata
Taldra190 centimetr Edit this on Wikidata
PriodJane Henson Edit this on Wikidata
PlantJohn Henson, Brian Henson, Lisa Henson, Heather Henson, Cheryl Henson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Peabody, Gwobr Emmy 'Primetime', 'Disney Legends', Rhodfa Enwogion Hollywood, Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Variety Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar golygu

Ganwyd Henson yn Greenville, Mississippi, ar 24 Medi 1936 a chafodd ei fagu yn Leland, Mississippi, gan deulu o Seientiaid Cristnogol. Agronomegwr oedd ei dad oedd yn gweithio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau. Symudodd y teulu i Maryland a phan oedd Jim ym Mhrifysgol Maryland cafodd ei hurio gan sianel deledu leol i gynhyrchu rhaglen fer o'r enw Sam and Friends.[1] Cyd-weithiodd â Jane Nebel, myfyrwraig, a phriododd y ddau ym 1959. Cafodd y ddau, bump o blant cyn iddynt wahanu ym 1986, ond ni wnaethont ysgaru a pharhaodd y berthynas yn glos hyd at ei farwolaeth.[2]

Gyrfa golygu

Creodd Jim byped o froga ym 1956 ac fe'i enwodd yn "Kermit the Frog" ar ôl ffrind o'i blentyndod.[1] Creodd ragor o 'Muppets', sef cyfansoddair o marionette a puppet, o rwber a brethyn, ac oedd yn gallu dangos emosiwn yn well na phypedau pren[1] a rhoes iddynt "fywyd a sensitifrwydd" ar gyfer y teledu.[2] Yn y 1950au a'r 1960au ymddangosodd y Muppets mewn hysbysebion ac ar sioeau adloniant megis The Ed Sullivan Show a The Today Show.[1][3]

Cyflogwyd Henson ym 1969 gan y Children's Television Workshop i berfformio'i bypedau ar y rhaglen blant Sesame Street. Cyflwynodd Henson y cymeriadau Bert ac Ernie, Big Bird, Grover ac eraill i'r sioe.[2] Darlledwyd The Muppet Show o 1976 hyd 1981, a llwyddodd i ennill 235 miliwn o wylwyr ar draws y byd ar adegau.[2] Cydweithiodd â'r pypedwr Frank Oz ar Sesame Street a The Muppet Show. Cynhyrchodd Henson The Muppet Movie (1979), a chyfarwyddodd The Great Muppet Caper (1981), ffilmiau oedd yn serennu'r Muppets. Yn y 1980au creodd y rhaglen blant Fraggle Rock a'r gyfres The Storyteller. Gweithiodd hefyd ar y ffilmiau ffantasi The Dark Crystal (1982) a Labyrinth (1986), ond nid oedd yn llwyddiannus yn y swyddfa docynnau.[4]

Gwobrau golygu

Yn ystod ei yrfa, enillodd Henson 18 Gwobr Emmy, saith Gwobr Grammy, a phedair Gwobr Peabody.[1] Roedd yn enwog am ei garedigrwydd, ei ostyngeiddrwydd a'i daldra o 6'3".[2][4] Bu farw Henson ar 16 Mai 1990 o niwmonia.[5] Ar y cychwyn ni ddymunodd Henson fynd i'r ysbyty gan nad oedd eisiau trafferthu eraill, ac yn ôl ei wraig Jane mae'n debyg i gredoau Seientiaeth Gristnogol ei deulu "effeithio ei feddwl",[4] er nad oedd Henson yn Seientiad Cristnogol gweithredol ers 15 mlynedd.[6] Cafwyd gwasanaeth coffa gyda 5000 o alarwyr yn Eglwys Gadeiriol Ioan Ddwyfol, Dinas Efrog Newydd.[4][7]

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Padgett, John B. (17 Chwefror 1999). Jim Henson. Prifysgol Mississippi. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Collins, James (8 Mehefin 1998). Jim Henson. TIME. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  3. (Saesneg) Blau, Eleanor (17 Mai 1990). Jim Henson, Puppeteer, Dies; The Muppets' Creator Was 53. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Schindehette, Susan (18 Mehefin 1990). Legacy of a Gentle Genius. People. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  5. (Saesneg) Altman, Lawrence K. (29 Mai 1990). THE DOCTOR'S WORLD; Henson Death Shows Danger of Pneumonia. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  6. (Saesneg) Evans, W.R. (1 Gorffennaf 1990). Henson rumor is groundless. Toledo Blade. Adalwyd ar 15 Medi 2012.
  7. (Saesneg) Blau, Eleanor (22 Mai 1990). Henson Is Remembered as a Man With Artistry, Humanity and Fun. The New York Times. Adalwyd ar 15 Medi 2012.

Llyfryddiaeth golygu

  • Bacon, Matt. No Strings Attached: The Inside Story of Jim Henson’s Creature Shop. New York: MacMillan, 1997.
  • Finch, Christopher. Of Muppets and Men: The Making of The Muppet Show. New York: Muppet Press/Alfred A. Knopf, 1981.
  • Finch, Christopher, a Charles S. Finch. Jim Henson: The Works: The Art, the Magic, the Imagination. New York: Random House, 1993.
  • Henson Associates. The Art of the Muppets: A Retrospective Look at Twenty-five Years of Muppet Magic. New York: Bantam, 1980.
  • Henson, Jim. The Muppet Show Book. New York: Abrams, 1978.
  • St. Pierre, Stephanie. The Story of Jim Henson: Creator of the Muppets. N.p.: Gareth Stevens, 1997.

Dolenni allanol golygu