Seiclwr trac Cymreig oedd Jimmy Michael (18 Awst 187721 Tachwedd 1904). Ganed ef yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf. Ddechreuodd seiclo yn ifanc gan ddod i'r amlwg gyda chymorth Arthur Linton a Choppy Wharburton, pan enillodd ras Herne Hill yn gyflymach na neb erioed o’r blaen. Trodd yn seiclwr proffesiynol yn 1895 gan ddod yn Bencampwr Stayer y Byd yr un flwyddyn. Curodd y pencampwr Ffrengig Lucien Lesna, gan gwblhau 50 km yn yr un cyflymdra campus ag Arthur Linton. Rhwng ei lwyddiant ef a thymor gwael Linton, surodd y berthynas rhyngddynt ac yn dilyn marwolaeth Linton, torrodd Michael unrhyw gysylltiad â Warburton gan symud i'r Unol Daleithiau. Cafodd yrfa gweddol lwyddiannus yno am gyfnod, gan dorri recordiau ac ennill ffortiwn sylweddol. Ymddeolodd o'r byd beicio gan fynd i weithio fel joci ac daeth yn berchennog ar stabl rasio. Pan fethodd y fenter, penderfynodd ddychwelyd i Efrog Newydd ond ni chyrhaeddodd a bu farw o’r delerium tremens ar fwrdd llong y Savoie ar 21 Tachwedd 1904, yn bur debyg o ganlyniad i yfed trwm.[1]

Jimmy Michael
Ganwyd18 Awst 1877 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1904 Edit this on Wikidata
at sea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra1.56 metr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Palmarès golygu

  • 1af Pencampwriaethau'r Byd Stayer - proffesiynol, Cwlen, yr Almaen 1895
  • 3ydd Pencampwriaethau Ewrop Stayer - proffesiynol 1902

Cyfeiriadau golygu

  1. "Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf - Aberaman". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-12. Cyrchwyd 2008-10-12.

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.