Cyflwynydd radio a theledu ac actor o Sais oedd Syr James Wilson Vincent Savile OBE, KCSG (31 Hydref 192629 Hydref 2011), sy'n cael ei adnabod gan amlaf fel Jimmy Savile. Mae'n fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen deledu'r BBC Jim'll Fix It, ac am fod y cyflwynydd cyntaf a'r olaf ar raglen siart gerddorol y BBC, Top of the Pops. Mae ef hefyd yn enwog am gefnogi elusennau amrywiol. Bu farw yn ei gartref yn Leeds, Lloegr ar 29 Hydref 2011.

Jimmy Savile
Ganwyd31 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
Roundhay Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethtroellwr disgiau, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, hunangofiannydd, pêl-droediwr, ymgodymwr proffesiynol, sex offender Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYoung at Heart, Jim'll Fix It, Top of the Pops Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Sant Grigor Fawr, OBE, Marchog Faglor, Cross pro Merito Melitensi Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ar ôl iddo farw, daeth honiadau i'r fei ei fod wedi camdrin merched yn eu harddegau'n rhywiol yn ystod y 1960au a'r 1970au. Ers yr honiadau, mae'r heddlu wedi ei ddisgrifio fel "troseddwr rhywiol rheibus"[1] a bu nifer yn galw am iddo golli'r anrhydeddau a roddwyd iddo pan oedd yn fyw. Yn Hydref 2012, dechreuodd yr Heddlu Fetropolitan asesiad o'r honiadau, gan gyhoeddi ymchwiliad ar y cyd â'r NSPCC i mewn i honiadau o ymosodiadau rhywiol a wnaed gan Savile dros bedwar degawd. Dechreuwyd ar ymchwiliadau hefyd i arferion gwaith rhai o'r llefydd y gweithiodd, gan gynnwys yn y BBC ac mewn ysbytai.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.